CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370
ISBN: 9781739855802
Dyddiad Cyhoeddi: 03 Mai 2022
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Modern / Modern Welsh Publications Ltd.
Golygwyd gan Patricia Williams
Fformat: Clawr Caled, 217x156 mm, 244 tudalen
Iaith: Cymraeg
Yn y gyfrol hon ceir casgliad o chwedlau am gymeriadau beiblaidd a hanesion saint sydd wedi eu cadw mewn llawysgrifau canoloesol; ond yn wahanol i'r Mabinogion nid ydynt wedi cael y sylw a haeddant. Nid astudiaeth ysgolheigaidd mo hon ond cyflwyniad o hen chwedlau ar eu newydd wedd.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Mae'r golygydd wedi eu trosi o Gymraeg Canol i'r iaith lafar bob dydd, er mwyn eu gwneud yn fwy darllenadwy.
Ar ôl cyfnod o ddysgu Lladin ym mlynyddoedd cynnar ei gyrfa, penodwyd Patricia Williams yn ddarlithydd yn Adran Geltaidd Prifysgol Lerpwl ac yn ddiweddarach yn Adran Geltaidd Prifysgol Manceinion. Iaith a llenyddiaeth yr Oesoedd Canol yw ei phrif faes ymchwil ac mae hi wedi cyhoeddi nifer o erthyglau a llyfrau ar destunau Cymraeg Canol, y rhan fwyaf yn gyfieithiadau o'r Lladin. Ar ôl ymddeol mae hi'n parhau i bori yn y maes ac un o'i phleserau pennaf yw rhannu ffrwyth ei hymchwil ag eraill sydd yn ymddiddori yn llenyddiaeth gyfoethog y Cymry.