CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370
ISBN: 9781845278786
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Medi 2022
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Darluniwyd gan Elin Manon
Fformat: Clawr Caled, 277x205 mm, 104 tudalen
Iaith: Cymraeg
Merched cryf a dewr yw'r prif gymeriadau yn chwedlau'r Celtiaid, ac mae pawb yn rhyfeddu atyn nhw! Dyma gasgliad o bymtheg o straeon o saith gwlad sy'n dangos hynny. Addaswyd y chwedlau i'r Gymraeg gan Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen Williams.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Darlunydd y gyfrol yw Elin Manon. Merch o Gymru sy’n byw ac yn gweithio yng Nghernyw yw Elin. Mae ganddi ddiddordeb byw mewn chwedlau, hanesion am hen oesoedd a phatrymau a dychymyg y Celtiaid.
Y Chwedleuwyr Cymraeg.
Dewiswyd ac addaswyd y chwedlau i'r Gymraeg gan: Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen Williams.
Gwybodaeth Bellach:
Yr hyn gawn ni yn y chwedlau hyn hefyd ydy darluniau o fywyd ar arfordir gwyllt y gorllewin, lle mae’r môr gwyllt a’r mynyddoedd garw yn cadw sawl cyfrinach yn eu cilfachau.
Y Chwedlau:
Nia Ben Aur (Iwerddon)
Rhiannon a'r gosb o fod yn geffyl (Cymru)
Ker Is (Llydaw)
Morag Glyfar (Yr Alban)
Cewri Karrek Loos yn Koos (Cernyw)
Môr-forwyn Purt-le-Moirrey (Ynys Manaw)
Llygad am Lygad (Iwerddon)
Rhos y Pawl (Cymru)
Merch y Tonnau (Yr Alban)
Antur Keresen o Senar (Cernyw)
Stori Gráinne (Iwerddon)
Azenor ddoeth, Azenor ddel (Llydaw)
Castell Penârd (Cymru)
Cailleach – ceidwad y ceirw (Yr Alban)
Y Frenhines Lupa (Galisia)