Casgliad o 24 o chwedlau a straeon am arwyr Cymru gan y diweddar John Owen Huws. Ymysg y straeon mae hanes y Brenin Arthur, Jemeima Niclas, Dewi Sant, Gwrachod Llanddona, Gwenllian, Barti Ddu a llawer mwy. Detholiad o lyfrau blaenorol yr awdur yw'r straeon yn y gyfrol bresennol.
Tabl Cynnwys:
Yn cynnwys y chwedlau canlynol:
Gwrachod Llanddona
Maes Gwenllian
Tywysydd Clawdd Offa
Nia Ben Aur
Y Brenin Arthur
March a’i Glustiau
Melangell
Taliesin
Dreigiau Myrddin Emrys
Barti Ddu
Cantre’r Gwaelod
Y Wibernant
Rhys a Meinir
Dewi Sant
Morwyn Llyn y Fan
Twm Sion Cati
Jemeima Niclas
Ifor Bach
Lludd a Llefelys
Marged Ferch Ifan
Beuno
Y Cyfnewidiaid
Owain Glyndŵr
Lladron Crigyll
Gwybodaeth Bellach:
Dyma straeon y dylai Cymry ifainc o bob cenhedlaeth fod yn gyfarwydd â hwy. Maent wedi’u hadrodd gan Gyfarwydd sydd yn adnabod crefft dweud stori, a chawn ddod i adnabod chwedlau ac arwyr o bob cwr o Gymru, ar hyd a lled arfordir Cymru, ac ar ein tir.
Argraffwyd y straeon hyn yn wreiddiol mewn sawl cyfrol boblogaidd Gawn Ni Stori? a gyhoeddwyd yn y 90au gan Wasg Carreg Gwalch.
Lluniau du a gwyn gan Dorry Spikes.
Dyma gyfle i blant heddiw fwynhau’r chwedlau mewn diwyg newydd.