CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Hen Englynion - Diweddariadau

Cyhoeddiadau Barddas

Hen Englynion - Diweddariadau

Pris arferol £7.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Gwyn Thomas

ISBN: 9781906396749
Dyddiad Cyhoeddi: 17 Ebrill 2015
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Aberystwyth
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 160 tudalen
Iaith: Cymraeg

Diweddariadau o englynion hynaf yr iaith Gymraeg gyda rhagymadrodd gwerthfawr iddynt. Cynhwysir canu crefyddol, canu natur a gwirebau, ynghyd ag englynion sy'n gysylltiedig â chwedlau, yn benodol y tri chylch o englynion chwedlau: Canu Llywarch Hen, Canu Urien a Chanu Heledd.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Gwyn Thomas yn fardd, yn feirniad ac yn academydd o’r radd flaenaf. Ef oedd Pennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor tan ei ymddeoliad. Fel un sy’n awdurdod ar y Traddodiad Barddol yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd cyhoeddodd sawl cyfrol o feirniadaeth lenyddol, ac y mae’n parhau i fod yn gynhyrchiol fel awdur. Cafodd Gwyn Thomas ei enwebu yn ‘Hoff Fardd Cymru’ yn 2014.

Gwybodaeth Bellach:
Yn 1970 cyhoeddwyd y gyfrol arloesol Yr Aelwyd Hon gan olygyddiaeth Gwyn Thomas, oedd yn cynnwys diweddariadau o hen farddoniaeth Gymraeg gan Bedwyr Lewis Jones, Derec Llwyd Morgan a Gwyn Thomas ei hun, cyfrol sydd wedi bod wrth benelin sawl un wrth astudio’r Gymraeg yn mewn ysgol a phrifysgol. Dros ddeugain mlynedd yn ddiweddarach penderfynodd yr ysgolhaig droi yn ôl unwaith eto at ein barddoniaeth Gymraeg gynnar, y tro hwn gan ganolbwyntio ar y canu englynol cynnar:
“Mi ddechreuais feddwl, unwaith eto, ei bod hi’n bechod ei bod hi’n haws i ddarllenwr Cymraeg gael gafael ar fersiynau dealladwy o’r hen ganu hwn yn Saesneg nag yn Gymraeg. Ac am yr ail waith mi benderfynais geisio cyflwyno cyfran o’n hen ganu ni fel cenedl yn Gymraeg,” meddai yn y Rhagarweiniad i’r gyfrol.

Mae’r hen englynion sydd wedi eu diweddaru yn y gyfrol hon, dros deugain cyfres o englynion i gyd, i’w cael mewn dwy brif lawysgrif, sef Llyfr Du Caerfyrddin (tua 1250) a Llyfr Coch Hergest (rhwng 1382 a thua 1405), ac yn cynnwys canu crefyddol, canu natur a gwireb ac englynion sydd â chysylltiad â chwedlau, ac yn benodol y tri phrif gylch o englynion chwedlau: Canu Llywarch Hen, Canu Urien a Chanu Heledd. Ystyrir y canu englynol hwn ymysg y cerddi canoloesol mwyaf apelgar i gynulleidfa fodern o safbwynt yr arddull uniongyrchol a hefyd eu cynnwys. Pwysleisia Gwyn Thomas mai’r un peth yn anad dim arall y ceisiodd ei wneud gyda’r diweddariadau newydd yma oedd sicrhau fod yna rythm yn y linellau.