CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

What's the Word For...?/Beth Yw'r Gair Am...? - An Illustrated Dictionary/Geiriadur â Lluniau

Gwasg Prifysgol Cymru

What's the Word For...?/Beth Yw'r Gair Am...? - An Illustrated Dictionary/Geiriadur â Lluniau

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9780708317365
Dyddiad Cyhoeddi: 20 Mawrth 2018
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press, Caerdydd
Golygwyd gan Carol Williams
Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Meddal, 209x147 mm, 126 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Geiriadur darluniadol Cymraeg-Saesneg/Saesneg-Cymraeg yn cynnwys dros 1,500 o eiriau, gyda chymorth i ddysgwyr y Gymraeg gyda threigladau, ynghyd ag adrannau yn cyflwyno'r amser, anifeiliaid, bwyd, chwaraeon, dillad a rhannau'r corff; i blant 7-11 oed. Cyhoeddwyd gyntaf Mai 2002.

An illustrated Welsh-English/English-Welsh dictionary comprising over 1,500 words, with help with mutations for Welsh learners, together with sections presenting the time, animals, food, sports, clothes and parts of the body; for 7-11 year-old children. First published in May 2002.

Gwybodaeth Bellach:

Rydych chi am wybod y geiriau Saesneg am iechyd neu neges? Byddwch yn eu cael fan hyn, ynghyd â rhyw 1,500 o eiriau eraill, ac mewn fformat clir, deniadol a chyfleus. Yn yr adran Gymraeg–Saesneg, cyflwynir system syml ond cynhwysfawr i helpu dod o hyd i ffurfiau treigledig, a chynhwysir rhannau ymadrodd a llawer o luosogion. Er iddo gael ei seilio ar eirfa a ddefnyddir i ddysgu Cymraeg fel ail iaith i’r rhai 7–11 oed, bydd yr amrywiaeth o eiriau a diwyg y deunydd yn sicrhau y bydd y geiriadur hwn yn werthfawr ar gyfer ystod oedran ehangach o lawer yn ogystal ag ar gyfer rhai sefyllfaoedd iaith-gyntaf.
So you want to know the Welsh words for bird or tree? Presented here in a clear, attractive and convenient format, you will find those and about 1,500 other words. In the Welsh–English section, a simple but comprehensive system to help find mutated forms of words is introduced, and parts of speech and many plurals are included. While based on vocabulary used for teaching Welsh as a second language to 7–11 year olds, the range of words and the presentation of the material ensures that this little dictionary will be a valuable resource for a much wider age range as well as for some first-language situations.