CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Y Geiriadur Celf

Mark White

Y Geiriadur Celf

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Mark White

ISBN: 9781906587109
Dyddiad Cyhoeddi: 25 Tachwedd 2011
Cyhoeddwr: Dalen (Llyfrau) Cyf, Tresaith
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Dafydd Jones
Addas i oed 12+
Fformat: Clawr Meddal, 232x154 mm, 170 tudalen
Iaith: Cymraeg

Wrth astudio Celf a Dylunio ar gyfer Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch bydd y myfyriwr angen dod o hyd i ystyr geiriau arbenigol a darganfod mwy am fudiadau celf. Mae'r Geiriadur Celf wedi ei lunio ar gyfer ateb y gofyn hwn. Mae'n cynnwys esboniadau clir a chynhwysfawr ar gyfer cofnodion sy'n allweddol ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio yng Nghymru.

Gwybodaeth Bellach:
Trefnwyd cynnwys a chofnodion y Geiriadur yn ôl trefn yr wyddor er mwyn helpu’r darllenydd i ddod o hyd i wybodaeth yn rhwydd a sydyn. Mae’r Geiriadur hefyd yn cynnwys termau yn Gymraeg a Saesneg, rhestr eirfa a llyfryddiaeth er mwyn hwyluso’i ddefnydd gan fyfyrwyr sy’n gwbl sicr eu Gymraeg, neu fyfyrwyr sydd dim mor rhugl.

Seiliwyd y Geiriadur Celf ar Art & Design: The Essential Word Dictionary gan yr athro a’r arholwr Mark White, ac a gyhoeddwyd gan Philip Allen. Comisiynwyd y fersiwn Gymraeg gan Lywodraeth Cymru a’i gyhoeddi dan nawdd Cynllun Adnoddau Addysgu a Dysgu CBAC. Golygwyd y fersiwn Gymraeg gan Dafydd Jones sy’n darlithio mewn Celfyddyd Gain yn UWIC ac sydd wedi bod yn gyfrifol am nifer o lyfrau ac erthyglau ysgolheigaidd yn y maes.

Er mwyn gwneud y Geiriadur Celf yn hollol berthnasol ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru ychwanegwyd nifer fawr o enghreifftiau o waith celf gan artisiaid o Gymru, gweithiau sydd i’w gweld yng Nghymru, ynghyd â mudiadau celf neu ddulliau sydd â’u gwreiddiau yng Nghymru neu sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r wlad.

Gyda chyfeiriadau hwylus, esboniadau clir a chyngor arholwr, y Geiriadur Celf yw’r cyfeiriadur perffaith ar gyfer unrhyw un sy’n newydd i’r pwnc, sydd eisoes ar ganol cwrs, neu sy’n adolygu ar gyfer arholiad.