CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Aberteifi

Ceri Wyn Jones

Aberteifi

Pris arferol £14.50
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Ceri Wyn Jones

ISBN: 9781845277468 
Dyddiad Cyhoeddi: 27 Hydref 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Darluniwyd gan Richard Outram
Fformat: Clawr Caled, 208x245 mm, 128 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cerddi, ysgrifau a ffotograffau sy'n ymateb i dref Aberteifi. Mae tref Aberteifi a'i chyffiniau yn agos iawn at galon y bardd Ceri Wyn Jones. Yma mae'n ymateb ar ffurf cerddi ac ysgrifau i'r dref, ei phobol a'i phethau, ac mae’r ffotograffydd Richard Outram yn ymateb i'w waith gyda'i ffotograffau unigryw.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
CERI WYN JONES Er bod gan Welwyn Garden City a Phen-y-bryn arno, crwt o Aberteifi yw’r bardd, y golygydd a’r darlledwr Ceri Wyn Jones. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1997 a 2014, a’r Goron yn 2009. Cafodd ei gyfrol o gerddi Dauwynebog ei chynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2008. Bu’n Fardd Plant Cymru ac ef, ers 2012, yw Meuryn cyfres boblogaidd Y Talwrn ar Radio Cymru

RICHARD OUTRAM Ffotograffydd llawrydd yw Richard Outram, yn arbenigo mewn tirluniau. Mae’n arwain cyrsiau ffotograffiaeth, ac wedi gweithio ledled y byd. Caernarfon yw ei gartref bellach er mai un o Fangor ydyw. @welshlandscapesbyRichardOutram

Gwybodaeth Bellach:
Mae gan Aberteifi le annwyl yng nghalonnau’r Cymry.
Dyma safle castell yr Arglwydd Rhys a chartref yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf erioed. Dyma borthladd o bwys slawer dydd a thref farchnad fyrlymus. Dyma stryd fawr â graen ar ei gwedd, a chreadigrwydd a menter yn ei hesgyrn o hyd. Ond dyma dref a chanddi ei chorneli tywyllach hefyd.
Taith bersonol o amgylch Aberteifi a’i chyffiniau yw’r gyfrol hon, taith drwy gyfrwng ysgrifau a cherddi gan un sy’n falch o fod yn un o fois y dre.