CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370
Awdur: Mari Emlyn
ISBN: 9781784619466
Dyddiad Cyhoeddi: 05 Tachwedd 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 170x187 mm, 144 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
Cyfrol ddwyieithog sy’n gofnod ac yn ddathliad o’r ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru hyd yma. Ceir straeon gan bobl sy’n egluro eu taith bersonol nhw at gefnogi Cymru annibynnol ochr yn ochr â lluniau o raliau, gemau pêl-droed a gorymdeithiau. Trafodir hanfodion annibyniaeth a chynhwysir rhai o areithiau’r ralïau.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Ganwyd a magwyd Mari yng Nghaerdydd. Bellach mae’n byw yn y Felinheli. Mae Mari wedi dilyn gyrfa fel actores, sgriptwraig, golygydd ac awdur yn ogystal â threulio pum mlynedd fel Cyfarwyddwr Artistig Galeri, Caernarfon. Hi yw awdur y gyfrol boblogaidd ‘Cofiwch Dryweryn’ – cyfrol ar ffenomenon murluniau Cofiwch Dryweryn ymddangosodd ar hyd a lled Cymru yn 2019 mewn ymateb i'r trosedd casineb yn erbyn y murlun eiconig gwreiddiol.