CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Llyfr Pen-blwydd | Birthday Book

Gomer

Llyfr Pen-blwydd | Birthday Book

Pris arferol £9.99 Pris gostyngol £4.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Eiry Palfrey
ISBN: 9781843239376
Dyddiad Cyhoeddi: 29 Hydref 2008
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Suzanne Carpenter
Fformat: Clawr Caled, 216x150 mm, 200 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
Llyfr hwylus a hardd er mwyn cofio pob pen-blwydd pwysig. Yn cynnwys arweiniad gan y sêr-ddewines Eiry Palfrey i hoff bethau a thueddiadau pob arwydd yn y sidydd. Pwy sy'n debygol o gyd-dynnu - neu beidio? Pwy sy'n rhannu'r un pen-blwydd â chi, tybed?
Gwybodaeth Bellach:
Dyma ffordd hwylus o gofio pob pen-blwydd pwysig – ei nodi yn y llyfr hardd hwn. A chewch arweiniad hefyd gan y sêr-ddewines Eiry Palfrey i hoff bethau a thueddiadau pob arwydd yn y sidydd. Felly dylai pob seren yn eich ffurfafen bersonol chi gael anrheg sy'n plesio!

Pa sêr sy'n debygol o danio neu gyd-dynnu? Pwy yw eich gefeilliaid astrolegol chi, tybed? Mae'r atebion i gyd yn y llyfr bach hwylus hwn.

Chwilio am yr Anrheg Berffaith
Wedi ei ysgrifennu gan yr astrolegydd profiadol Eiry Palfrey, yn ogystal â bod yn llyfr defnyddiol i nodi dyddiadau pen-blwydd pwysig a darganfod pa enwogion sy’n rhannu’r un pen-blwydd â chi, mae hefyd yn edrych ar nodweddion pob arwydd yn y Sidydd. Mae hefyd yn cynnig pa anrhegion i brynu i ba arwydd - perffaith!