CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Y Bachgen, Y Wahadden, Y Llwynog a’r Ceffyl

Charlie Mackesy

Y Bachgen, Y Wahadden, Y Llwynog a’r Ceffyl

Pris arferol £16.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Charlie Mackesy

ISBN: 9781914079597
Dyddiad Cyhoeddi: 23 Medi 2021
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Jackie Morris
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Mererid Hopwood.
Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Caled, 222x172 mm, 128 tudalen
Iaith: Cymraeg

Yn llawn lluniau a thestun hardd, a grëwyd yn wreiddiol gan Charlie Mackesy ac sydd bellach wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood, mae’r testun unigryw hwn wedi taro tant â darllenwyr ledled y byd gyda’i wersi bywyd tyner sy’n ein hatgoffa o gyfeillgarwch yng nghanol byd blith-draphlith.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Mae Mererid Hopwood wedi ysgrifennu, golygu a throsi nifer o weithiau i blant, gan gynnwys cyfres nofelau Miss Prydderch, Fy Llyfr Englynion a Geiriau Diflanedig, sef trosiad o waith Rob Macfarlane gyda darluniadau gan Jackie Morris.

Ganed Charlie Mackesy yn ystod gaeaf oer iawn o eira yn Northumberland. Dechreuodd Charlie fel cartwnydd i The Spectator a darlunydd llyfrau ar gyfer Gwasg Prifysgol Rhydychen cyn cael ei gyflogi gan orielau. Arddangosodd ddarluniau yn
gyntaf yn Llundain, yn The Park Walk Gallery, ac ers hynny mae wedi arddangos mewn orielau yn Efrog Newydd, Llundain a Chaeredin. Mae gwaith Charlie yn ymddangos mewn llyfrau, casgliadau preifat a mannau cyhoeddus, gan gynnwys Mynwent Highgate yn Llundain, mewn ysbytai, carchardai, eglwysi a cholegau prifysgol ledled y DU, ac mewn tai diogel menywod ledled y byd. Un o’i amseroedd hapusaf
oedd gwneud lluniadau i Richard Curtis ar set Love Actually fel y gallent ymddangos mewn ocsiwn ar gyfer Comic Relief.

Cynhyrchodd ‘The Unity Series’, set gydweithredol o lithograffau gyda Nelson Mandela yn 2006. Mae ei daith gyda The boy, the mole, the fox and the horse wedi meddiannu ei fywyd. Mae’n byw yn eu byd nhw lawer o’r amser ac mae wedi bod wrth ei fodd yn llunio’r llyfr. Bydd eu hanturiaethau yn parhau.

Gwybodaeth Bellach:
Wedi’i addasu o un o lyfrau mwyaf adnabyddus y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a’r Ceffyl yn fynegiant o gyfeillgarwch, caredigrwydd a thosturi rhwng pedwar cydymaith annhebygol.

Wedi’i gyhoeddi yn gyntaf yn 2019 gan Penguin, mae’r llyfr hwn wedi mynd ymlaen i ddominyddu gwerthiant llyfrau ledled y byd, gan werthu dros filiwn o gopïau a chael ei gyfieithu i 22 iaith.