CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Dau Wyneb

Manon Steffan Ros

Dau Wyneb

Pris arferol £4.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Manon Steffan Ros

ISBN: 9781783900831
Dyddiad Cyhoeddi: Mehefin 2016
Cyhoeddwr: Canolfan Peniarth, Caerfyrddin
Fformat: Clawr Meddal, 197x128 mm, 96 tudalen
Iaith: Cymraeg

Drama gan Manon Steffan Ros yn archwilio ein defnydd o'r we. Mae'r we yn rhoi'r cyfle i ni wneud y gorau o'n hunain - hunluniadau del, sylwadau clyfar a miloedd o ffrindiau. Ond beth yw perthynas y we gyda bywyd go iawn? A ydy pawb yn dweud celwyddau ar y we, a beth sy'n digwydd pan fo celwydd golau'n troi'n dwyll peryglus?

Gwybodaeth Bellach:
Dyma ddrama newydd amserol sydd wedi ei chyhoeddi yn arbennig ar gyfer disgyblion sy'n astudio Drama TGAU. Mae'r ddrama wedi ei chynnwys fel drama destun ar faes llafur newydd Drama TGAU CBAC o fis Medi 2016 ymlaen. Bydd pecyn adnoddau i athrawon ar gael o wefan Hwb - Dysgu Cymru Llywodraeth Cymru o fis Medi 2016 ymlaen.
Mae hi'n ddrama amserol iawn sy'n ymdrin â chyfeillgarwch pobl â'i gilydd ar y we, a'r platfform y mae gwefanau cymdeithasol yn ei roi i bobl i gyfathrebu â'n gilydd mewn dulliau amrywiol.