CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: William Shakespeare
ISBN: 9781911584001
Dyddiad Cyhoeddi: 03 Chwefror 2017
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gwyn Thomas.
Fformat: Clawr Meddal, 216x138 mm, 120 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cyfieithiad y diweddar Gwyn Thomas o un o ddramâu enwocaf William Shakespeare am effeithiau uchelgais wleidyddol ar y sawl sy'n chwennych grym er ei fwyn ei hun.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Roedd y diweddar Gwyn Thomas yn ysgolhaig, yn fardd ac yn awdur toreithiog a wnaeth gyfraniad enfawr i'n llenyddiaeth. Cyfieithu'r ddrama hon oedd un o gymwynasau olaf Gwyn; fe'i disgrifir gan Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Cymru fel 'campwaith o gyfieithiad mydryddol.'
Gwybodaeth Bellach:
Cyhoeddir y gyfrol i gyd-fynd gyda chynhyrchiad uchelgeisiol a chyffrous Theatr Genedlaethol Cymru o 'Macbeth' yn ystod Chwefror 2017. Perfformir y ddrama yng Nghastell Caerffili a bydd yn cael ei darlledu'n fyw i sinemau ar draws Cymru fel rhan o fenter newydd Theatr Gen Fyw. Ceir rhagor o fanylion ar wefan Theatr Genedlaethol Cymru.