CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Tylwyth

Daf James

Tylwyth

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Daf James

ISBN: 9781784618797
Dyddiad Cyhoeddi: Mawrth 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 196x131 mm, 160 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae Aneurin wedi bod yn dianc rhag ei orffennol - ondmewn tro annisgwyl, diolch i Grindr - mae e wedi syrthio mewn cariad. Pan mae Dan ac yntau'n penderfynu mabwysiadu plentyn, mae'r ddau ohonynt ar ben eu digon. Ond wrth addasu i fywyd fel tad, a throi cefn ar orffennol gwyllt, mae ofnau duaf Aneurin yn dychwelyd. Dilyniant i'r ddrama Llwyth.

Bywgraffiad Awdur:
Cyfansoddwr, actor, dramodydd a sgriptiwr yw Dafydd James. Mae wedi cyfansoddi a chyfarwyddo nifer o sioeau gan gynnwys The Hunting of the Snark; Ghost Shirt; Mythed; Pinocchio; Apocalypse Wow; If That’s All There Is; Blast; Woof Woof Kerching a Geek Tragedy yng Canolfan y Mileniwm, Caerdydd; Under Milk Wood, Strike 25 (Mess up the Mess) a Plentyn yr Eira. Fel sgriptiwr, ysgrifennodd ar gyfer y Fiction Factory ar y gyfres deledu Gymraeg Caerdydd. Mae Tylwyth yn ddilyniant i’r ddrama arloesol, Llwyth.
Gwybodaeth Bellach:
Ddeng mlynedd ers y ddrama glodwiw ac arloesol Llwyth, mae Aneurin, Rhys, Gareth a Dada yn ôl mewn drama newydd, dyner a direidus gan Daf James. Gan daflu golwg grafog ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, mae Tylwyth yn cynnig sylwebaeth feiddgar a phryfoclyd ar y Gymru gyfoes. Bydd Tylwyth ar daith ledled Cymru rhwng 10fed o Fawrth a'r 3ydd o Ebrill 2020.