CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

E-Ffrindiau

Lois Arnold

E-Ffrindiau

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Lois Arnold

ISBN: 9781848511057
Dyddiad Cyhoeddi: 19 Tachwedd 2018
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 196x126 mm
Iaith: Cymraeg

Stori am ddwy ffrind sy'n cyfnewid negeseuon e-bost ac yn dysgu Cymraeg. Athrawes Ymarfer Corff sy'n byw yn agos i Sydney yn Awstralia yw Ceri, ac mae Sara, ei e-ffrind, yn byw mewn pentref heb fod yn bell o Gaerdydd ac yn teithio i'r brifddinas bob dydd i weithio mewn swyddfa. Deunydd darllen i ddysgwyr Cymraeg ar lefel mynediad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2009.

Bywgraffiad Awdur:
Ganed Lois Arnold yn Surrey, ond mae’n byw yn y Fenni ers rhai blynyddoedd bellach. Dysgodd Gymraeg yn rhugl ac erbyn hyn mae’n gweithio’n rhan amser fel tiwtor Cymraeg i Oedolion yng Ngholeg Gwent yn y Fenni. Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o storïau byrion i ddysgwyr, Cysgod yn y Coed gyda Gomer yn 2004.
Gwybodaeth Bellach:
Nofel i ddysgwyr o lefel Mynediad / Sylfaen ymlaen gyda'r ddwy ffrind yn y stori yn cyfnewid ebyst ac yn dysgu Cymraeg. Ysgrifennwyd y testun gan diwtor Cymraeg gan ddechrau'n syml iawn gyda'r eirfa a'r cystrawennau a ddefnyddir yn datbygu wrth i'r llyfr fynd yn ei flaen, gan ddilyn yr hyn sy'n cael ei ddysgu yng Nghwrs Mynediad. Mae'r llyfr hwn ar gael fel e-lyfr hefyd.