CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Welsh for Parents

Lisa Jones

Welsh for Parents

Pris arferol £19.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Lisa Jones

ISBN: 9781847713599
Dyddiad Cyhoeddi: 01 Mehefin 2013
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Cymysg, 250x195 mm, 128 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Cyfres o 3 CD gyda llyfr o ymarferion. Mae'r cwrs ar gyfer dechreuwyr i helpu rhieni, neiniau a theidiau sydd eisiau siarad ychydig o Gymraeg bob dydd ar yr aelwyd, yn enwedig gyda'r plant. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2011.

Bywgraffiad Awdur:
Arbenigwraig iaith yw Lisa, sydd ei hun wedi dysgu Cymraeg er mwyn rhoi’r iaith yn ôl i’w theulu. Ar ôl dysgu Cymraeg i Oedolion yng Ngholeg Gwent am dair blynedd dechreuodd hi redeg gwersi teilwredig i rieni. Mae Lisa nawr yn cyfuno gwaith achlysurol yn Llundain fel Hyffordwraig Cyswllt i Canning (yn dysgu Saesneg i bobl fusnes) â gwaith gwirfoddol i’w chymuned yn Aberhonddu, ble mae hi’n cynllunio a darparu gwersi Cymraeg sy’n cael eu teilwra ar gyfer rhieni ar y cyd gydag Ysgol y Bannau.

Mae Lisa hefyd wedi defynuddio ei phrofiad o ddysgu ieithoedd gwahanol ei hun dros y blynyddoedd i ysgrifennu’r CDs. Astudiodd Lisa Almaeneg, Sbaeneg a Ffrangeg yn y coleg ac roedd hi’n byw yn yr Eidal am flwyddyn cyn dechrau dysgu Cymraeg.