Cyhoeddiadau Barddas
Byw Brwydr - Detholiad o Ganu Gwleidyddol 1979-2013
ISBN: 9781906396657
Dyddiad Cyhoeddi: 08 Tachwedd 2013
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Golygwyd gan Hywel Griffiths
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 136 tudalen
Iaith: Cymraeg
Blodeugerdd o ganu gwleidyddol cyfoes (1979-2013) gyda chyflwyniad i gyd-destun gwleidyddol y cyfnod gan y golygydd.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Tabl Cynnwys:
Gwener, T. James Jones / Jon Dressel
Synfyfyr, Sion Aled
1979, Elwyn Edwards
11.12.82, Iwan Llwyd
Margaret Thatcher, John Roderick Rees
Gwastraff, T. Arfon Williams
Egni (detholiad), Jason Walford Davies
Cysgodion (detholiad), Robat Powell
Cofio’r Wythdegau, Gerwyn Williams
Tŷ Haf, Ieuan Wyn
Alltud, Ieuan Wyn
Y Fro Gymraeg 1987, Gwynfor ab Ifor
Sul y Mamau yn Greenham, 1984, Menna Elfyn
Dim Cyffwrdd, Mererid Hopwood
Cymru’r Wythdegau, Gerallt Lloyd Owen
Cennin Pedr, Elin ap Hywel
Arwyr?, Emyr Lewis
ein claddu’n fyw, Steve Eaves
I’r Ymchwiliad, Alun Llwyd
Diwedd haf ar y Maes Pebyll, Mari George
Gwarchodwyr y Ddraig, Elin Llwyd Morgan
Angharad Tomos, Gerallt Lloyd Owen
Branwen, Alan Llwyd
Siôn Aubrey, Twm Morys
Gwleidyddiaeth, David R. Edwards
Caffi’r Hayes – Caerdydd, John G. Rowlands
Porthcawl II, Emyr Lewis
Penderfyniad, John Glyn Jones
Gwahoddiad – Gwenallt Llwyd Ifan
Y Fro Gymraeg, John Glyn Jones
Tresaith, Emyr Davies
Ciosg Talysarn, David Greenslade
Y Rhosyn Newydd, Mihangel Morgan
Cyfwng Trefedigaethol, Robert Lacey
Afon, Dafydd Wyn Jones
Cân y Gwneuthurwr Mapiau, Gwyneth Lewis
Sain Ffagan, Tudur Dylan Jones
Ar Fideo, Aled Lewis Evans
Y Munudau Olaf (detholiad o Llofrudd Iaith), Gwyneth Lewis
Rantio dros Ryddid, Ifor ap Glyn
Pam?,Myrddin ap Dafydd
Dydd Iau, Medi 18, 1997, Tudur Dylan Jones
Glaw, Huw Meirion Edwards
Y Maen, Alan Llwyd
I’r Saeson a Bleidleisiodd ‘IE’, Grahame Davies
Hanner Amser, y Flwyddyn 2000, Grahame Davies
S.O.S. ola’r Saeson, Meirion MacIntyre Huws
Cymwynaswr, Ceri Wyn Jones
Gorwel, Twm Morys
Califfornia, Iwan Llwyd
Cadwyni Rhyddid, Grahame Davies
Genod y ‘til’, Iwan Llwyd
I Streicwyr Ferodo, Dafydd John Prichard
Y Nawfed Ton, Dic Jones
Y Goeden Fain, Meirion MacIntyre Huws
Os Mudandod…, Emyr Lewis
Dyfalu, Iwan Llwyd
dadrithiad gwleidyddol, Llion Jones
Hosanau ar draed Senedd, Iwan Rhys
Arwyr Cymru, Dic Jones
Owain Glyndŵr, Idris Reynolds
Cawod, Ceri Wyn Jones
Llythyr Pennal, Osian Rhys Jones
Y Bae, Dic Jones
Titrwm Tatrwm, Twm Morys
Aderyn Rhyddid, Ieuan Wyn
I Tony Blair (Rhagfyr 2004), Huw Meirion Edwards
Yr Ŵyl Gerdd Dant am Ddant, Ceri Wyn Jones
Ofn, Hywel Griffiths
Cywydd Croeso Eisteddfod Genedlaehol Eryri 2005, Gerallt Lloyd Owen
Twf, Cyril Jones
Y Fro Gymraeg, Eurig Salisbury
Iâ Cymru, Menna Elfyn
Cartre’n y Cread, Donald Evans
Cantre’r Gwaelod (2), Iwan Llwyd
Darluniau (detholiad), Aneirin Karadog
dilyn baner Cymru, Robat Gruffudd
y cylchoedd perffaith, Aled Jones Williams
Strydoedd Caernarfon, Myrddin ap Dafydd
Newid (2011), Huw Meirion Edwards
Tŷ Ni, Emyr Lewis
ynni, Christine James
y gymraeg, Geraint Jarman
Cân y Milwr, Karen Owen
Gwreiddiau, Llŷr Gwyn Lewis
Cylchoedd (detholiad), Gruffudd Antur
Sursum Corda?, Gwyn Thomas
Ni yw Chavez, Catrin Dafydd
Syrffio, Guto Dafydd
Y Rwtîn, Rhys Iorwerth
Bywgraffiad Awdur:
Mae Hywel Griffiths yn ddarlithydd yn Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth. Yn wreiddiol o Langynog, mae bellach yn byw yn Nhal-y-bont. Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2004 a 2007, a choron yr Eisteddfod Genedlaethol ym mhrifwyl Caerdydd, 2008. Daeth ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Banerog, i restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010, ac enillodd ei nofel gyntaf i blant, Dirgelwch y Bont, Wobr Tir na n-Og yn 2011. Ers hynny, cyhoeddodd nofel arall i blant yn eu harddegau – Haciwr – yn ogystal a chasgliad o farddoniaeth i blant – Teigr yn y gegin. Mae wedi cyhoeddi cerddi yn Barddas, Taliesin, Tu Chwith a Golwg ac mae’n mwynhau cymryd rhan mewn talyrnau, ymrysonau a stompiau. Cyhoeddodd yn ogystal ymchwil academaidd ar agweddau daearyddol yng ngwaith y cywyddwyr a beirdd cyfoes. Mae’n gyn-gaderiydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Gwybodaeth Bellach:
Go brin y byddai dinesydd Cymreig wedi dychmygu, ym mis Mawrth 1979, y byddai gennym Senedd a phwerau deddfu o fewn tri deg mlynedd, a mwyafrif o etholwyr Cymru wedi dweud ‘Ie’ dros ddatganoli a ‘Ie’ pellach dros ehangu pwerau’r Cynulliad a grëwyd. Go brin y buasai wedi dychmygu’r newidiadau a welwyd yng Nghymoedd De Cymru ac ardal chwareli’r gogledd, y byddai cannoedd o dai haf wedi eu llosgi gan genedlaetholwyr Cymraeg, y byddai pryder cynyddol dros newid hinsawdd, a go brin y credai cymaint o lanw ieithyddol a welwyd yn y de-ddwyrain a chymaint o drai a welwyd yn y cadarnleoedd traddodiadol. Ond, dyna ddigwyddodd.
Gweddnewidiwyd Cymru, ac eto, arhosodd nifer o bethau yr un peth. Drwy gydol y cyfnod, bu’r beirdd yn arsylwi, archwilio, cyfranogi a byw brwydrau Cymru. Yn canu clodydd ei harwyr ac yn dychanu ei dihirod. Yn wyneb bob anobaith a dadrithiad, roedd creadigrwydd, a chafwyd llawenhau gyda bob buddugoliaeth. Yn ystod y cyfnod, closiodd beirdd at eu cynulleidfa drwy boblogeiddio barddoniaeth lafar mewn nosweithiau mewn clybiau a thafarndai. Roedd y genhedlaeth a ddaeth i amlygrwydd yn y nosweithiau yma yn wleidyddol, a chynhwyswyd nifer o’u cerddi nhw yma. Ceir cynrychiolaeth o farddoniaeth y Beirdd Answyddogol, beirdd y Talwrn a beirdd sefydliadol, beirdd hen ac ifanc fel ei gilydd.
Er bod mwyafrif beirdd Cymru yn genedlaetholgar, adain chwith ac yn aml yn canolbwyntio ar barhad yr iaith a’i chymunedau, mae lleisiau amrywiol, heriol a gwahanol i’w clywed. Mae’r farddoniaeth hefyd yn dangos cysgod mor eang y mae digwyddiadau gwleidyddol ein gorffennol yn ei fwrw dros ein hymateb i wleidyddiaeth heddiw. Mae ein cof cymdeithasol am Dryweryn, Streic y Penrhyn a Phenyberth, heb sôn am Lywelyn a Glyndŵr yn cyflyru ein hagweddau at yr hyn a ddigwyddodd inni dros y blynyddoedd diwethaf. Nod y gyfrol hon yw tynnu ynghyd enghreifftiau o farddoniaeth y tri degawd diwethaf er mwyn ceisio cofnodi ymateb beirdd Cymru i ddigwyddiadau gwleidyddol mân a mawr y genedl. Ynddi mae cyfoeth, miniogrwydd, cymhlethdod, hwyl, hyder a gobaith ein llenyddiaeth hen i’w gweld yn glir.