CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cynhaeaf Hanner Canrif – Gwleidyddiaeth Gymreig 1945-2005

Gwilym Prys Davies

Cynhaeaf Hanner Canrif – Gwleidyddiaeth Gymreig 1945-2005

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Gwilym Prys Davies
ISBN: 9781843239420
Dyddiad Cyhoeddi: 20 Mehefin 2008
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 180 tudalen
Iaith: Cymraeg
Darlun dadlennol a diddorol o wleidyddiaeth Gymreig rhwng 1945 a 2005 a hynny drwy lygaid un o wleidyddion pwysicaf y cyfnod hwnnw. Ceir yma bwyso a mesur cyfraniad Goronwy O. Roberts, James Griffiths, Cledwyn Hughes, George Thomas, John Morris, Ron Davies ac eraill. Sonnir am hanes sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhoddir sylw i gyfraniad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Cynhaeaf Hanner Canrif, gan yr Arglwydd Gwilym Prys Davies, yn cyflwyno darlun dadlennol a diddorol o wleidyddiaeth Gymreig rhwng 1945 a 2005 a hynny drwy lygaid un o wleidyddion pwysicaf y cyfnod hwnnw. Dilynir hynt a helynt digon cymhleth yr ymgyrchoedd gwleidyddol mawr yng Nghymru ar hyd hanner olaf yr ugeinfed ganrif i sicrhau mesur o ymreolaeth ac i ddiogelu parhad ein hiaith genedlaethol. Cofnodir y llwyddiannau ac adlewyrchir yr anawsterau, gan bwyso a mesur cyfraniad nifer o wleidyddion pwysig y dydd – Goronwy O. Roberts, James Griffiths, Cledwyn Hughes, George Thomas, John Morris, Ron Davies ac eraill – pobl yr oedd yr awdur yn eu hadnabod yn dda ac y bu’n cydweithio'n agos â nifer ohonynt. Sonnir am hanes sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru 'a all fod yn egin senedd ffederal Gymreig … y grym cynyddol [a fydd] yn gyfrifol am ddiogelu ein hetifeddiaeth genedlaethol a datblygu dinasyddiaeth Gymreig' a rhoddir sylw i gyfraniad allweddol Cymdeithas yr Iaith yn y frwydr i sicrhau cydraddoldeb i'r Gymraeg.

Dyma gyfrol bwysig gan ŵr craff a threiddgar ac un na ellid bod wedi ei hysgrifennu ond gan un a chanddo wybodaeth bersonol o'r hyn oedd yn digwydd y tu ôl i'r llenni.

HANES GWLEIDYDDIAETH CYMRU ERS 1945 GAN UN A FU YN EI CHANOL HI

Dyma gyfrol sydd wedi cymryd pedair blynedd i’w hysgrifennu, ond dros hanner canrif i’w pharatoi a rhwng y cloriau mae’r awdur yn mynd ati i grynhoi gwleidyddiaeth Cymru rhwng 1945 a 2005.

Mawr fu’r newidiadau yn y cyfnod hwn wrth reswm, ac mewn 180 o dudalennau mae Gwilym Prys Davies yn ymdrin yn bennaf â’r ddwy thema gyfochrog sydd wedi bod yn gyson drwy ei yrfa hir fel gwleidydd gwlatgarol, sef y frwydr dros sefydlu llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru a diogelu parhad ein hiaith genedlaethol drwy bwyso am statws cyfreithiol i’r Gymraeg.

Yr Arglwydd Prys Davies, brodor o Lanegryn, Sir Feirionnydd a chyfreithiwr wrth ei broffesiwn, oedd yr ymgeisydd Llafur a drechwyd gan Gwynfor Evans yn isetholiad Caerfyrddin 1966. Fe weithiodd yn ddiwyd dros Gymru drwy gydol ei yrfa wleidyddol ac fel un a chanddo wybodaeth bersonol o’r hyn oedd yn digwydd y tu ôl i’r llenni, yn enwedig o fewn y Blaid Lafur, mae’n pwyso a mesur ag awdurdod gyfraniad nifer o wleidyddion a gweision sifil dylanwadol y dydd – Goronwy O. Roberts, James Griffiths, Cledwyn Hughes, J. Emrys Jones, George Thomas, John Morris, Ron Davies ac eraill – pobl yr oedd yn eu hadnabod yn dda, a rhai ohonynt yn gydweithwyr iddo.