CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Rheswm a Rhyddid

Y Lolfa

Rheswm a Rhyddid

Pris arferol £7.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Amrywiol

ISBN: 9781784618667
Dyddiad Cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Golygwyd gan E. Gwynn Matthews
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg

Prif ffocws y gyfrol yw ymateb i'r Oleuedigaeth, y chwyldro syniadaethol a osododd sail ar gyfer gwerthoedd a gwleidyddiaeth y cyfnod modern ac sy'n sylfaen ddamcaniaethol i'r wladwriaeth Ryddfrydol. Gyda gwerthoedd Rhyddfrydol o dan fygythiad mewn sawl rhan o'r gorllewin - o America Donald Trump i Brydain Dominic Cummings - mae'n bwnc cyfoes a pherthnasol.

Tabl Cynnwys:
Rhagair

Ateb i'r Cwestiwn 'Beth yw Goleuedigaeth?'
Immanuel Kent

Duw Moesol Kent
Dafydd Huw Rees

Kant, Rawls a Gobaith mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Huw Lloyd Williams

Theodor Adorno, Michael Foucault a Goleuedigaeth Kant
Garmon Iago

Metaffiseg a'r Genedl: Damcaniaeth Hegel ar Genedlaetholeb
David Sullivan

Dehongli Mark
Howard Williams

Hunaniaeth y Byd Modern
E. Gwynn Matthews
Bywgraffiad Awdur:
Awduron: Garmon Iago, Huw Lloyd Williams, David Sullivan, E. Gwynn Matthews, Howard Williams, Immanuel Kant, Dafydd Huw Rees

Mae E. Gwynn Matthews yn gydawdur (gyda Howard Williams a David Sullivan) argraffiad diwygiedig y gyfrol Francis Fukuyama and the End of History a gyhoeddwyd yn y gyfres Political Philosophy Now gan Wasg Prifysgol Cymru (2016). Cyn ymddeol bu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma'r wythfed casgliad o ysgrifau yng Nghyfres Astudiaethau Athromyddol.