CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cam i'r Deheubarth

Rhys Mwyn

Cam i'r Deheubarth

Pris arferol £9.50
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Rhys Mwyn

ISBN: 9781845276911
Dyddiad Cyhoeddi: 26 Mehefin 2019
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 304 tudalen
Iaith: Cymraeg

Yn dilyn ei gyfrolau ar archaeoleg gogledd Cymru a'r gororau, mae Cam i'r Deheubarth yn archwilio a dadansoddi henebion a chofadeiliau'r de-orllewin. O olion cyntefig yn ogofau arfordir Gŵyr i greiriau abaty Ystrad Fflur, cawn ein tywys drwy hanes cyfoethog yr ardal yn arddull unigryw yr awdur.

Tabl Cynnwys:
Cynnwys:
1. Ogofâu
2. Siambrau Claddu Dyffryn Nyfer
3. Côr y Cewri a’r Preselau
4. Cylchoedd Cerrig a Meini Hirion
5. Bryngaerau
6. Y Rhufeiniaid
7. Cerrig Ogam
8. Cerrig Cristnogol Cynnar
9. Ar Drywydd yr Arglwydd Rhys
10. Y Cestyll Seisnig
11. Y Llinell Landsger
12. Abatai Ystrad Fflur a Thalyllychau
13. Archaeoleg Amgen
14. Archaeoleg Milwrol
Bywgraffiad Awdur:
Ar ôl dilyn cwrs gradd mewn archaeoleg, bu Rhys Mwyn yn ffigwr amlwg yn y byd pop Cymraeg am ddegawdau, fel aelod o grŵp Yr Anhrefn ac fel rheolwr a hyrwyddwr. Yn ddiweddar, dychwelodd i’r byd archaeloegol ac erbyn hyn mae’n tiwtora ac yn arwain teithiau hanesyddol ledled Cymru. Mae ei golofn boblogaidd yn Yr Herald Cymraeg yn adlewyrchu ei ddiddordeb ysol yn y maes.
Mae’n byw yng Nghaernarfon gyda’i wraig a’u dau fab.
Cyhoeddwyd Cam i’r Gorffennol yn 2014 a Cam Arall i’r Gorffennol yn 2016.
Gwybodaeth Bellach:
Mae'r gyfrol hefyd yn mentro y tu hwnt i ffiniau Cymru - sut, er enghraifft, yr aeth cerrig gleision y Preselau yr holl ffordd i wastatedd Caersallog er mwyn adeiladu Côr y Cewri?
Cyfrol ddifyr, hawdd ei darllen sy'n codi'r llen ar hanes cynharaf ein gwlad, ac yn mentro i dir archaeoleg fodern.