CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cofiwch Dryweryn - Cymru'n Deffro / Wales Awakening

Mari Emlyn

Cofiwch Dryweryn - Cymru'n Deffro / Wales Awakening

Pris arferol £7.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Mari Emlyn

Awdur: Mari Emlyn

ISBN: 9781784617738
Dyddiad Cyhoeddi: Hydref 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 170x187 mm, 120 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Cyfrol ar ffenomenon murluniau diweddaraf Cofiwch Dryweryn sydd wedi ymddangos ar hyd a lled Cymru mewn ymateb i'r trosedd casineb yn erbyn y murlun eiconig gwreiddiol. Ynghyd â lluniau o'r murluniau, mae'r rhai fu'n eu peintio yn egluro pam eu bod wedi gweithredu yn y fath fodd a cheir cyfraniadau gan rai fu'n llygad dystion i foddi Capel Celyn.

A book on the recent phenomenon of painting Cofiwch Dryweryn on signs and walls throughout Wales following the vandalizing of the original iconic mural. Included also are contributions from those who have painted the murals and the views of people who witnessed the drowning of Capel Celyn and Tryweryn Valley.

Bywgraffiad Awdur:
Ganwyd a magwyd Mari yng Nghaerdydd. Yn dilyn cwblhau ei haddysg yn ysgolion Bryntaf a Llanhari aeth i Lundain a graddio yn y Celfyddydau Perfformio yng ngholeg Rose Bruford College of Speech and Drama. Ers hynny mae Mari wedi dilyn gyrfa fel actores, sgriptwraig, golygydd llyfrau ac awdur llyfrau yn ogystal â threulio pum mlynedd fel Cyfarwyddwr Artistig Galeri, Caernarfon. Mae Mari’n byw yn Y Felinheli ac mae hi’n fam i dri o feibion.