Awdur: Aled Eirug
ISBN: 9781845276690
Dyddiad Cyhoeddi: 19 Medi 2018
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 212 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae'r llyfr yma yn datgelu yn fanwl pa mor eang oedd y gwrthwynebiad i'r Rhyfel, ac yn esbonio ac yn dehongli'r cysylltiadau rhwng gwrthwynebwyr cydwybodol â'i gilydd. Ac am y tro cyntaf, mae'r gyfrol hon yn esbonio pam fod y gwrthwynebiad i'r Rhyfel Mawr yng Nghymru mor unigryw.
Gwybodaeth Bellach:
Ai arwyr neu gachgwn oedd gwrthwynebwyr cydwybodol y Rhyfel Mawr yn Nghymru?
Pan gyflwynwyd Gorfodaeth Filwrol yn Ionawr 1916, gwrthododd o leiaf 900 o ddynion blygu i’r drefn ac ymuno â’r Fyddin. Gwrthwynebent ar sail cydwybod – naill ar sail Gristnogol, foesol neu wleidyddol. Yn eu plith yr oedd rhai o bersonoliaethau pwysicaf yr oes yng Nghymru, fel Gwenallt, Arthur Horner a George M. Ll. Davies, dynion a ddaeth yn arweinwyr bywyd gwleidyddol, crefyddol a diwylliannol Cymru dros y degawdau canlynol.
Cefnogid y gwrthwynebwyr cydwybodol gan fudiadau gwleidyddol fel y Blaid Lafur Annibynnol a’r radicaliaid ymhlith y glöwyr, a’r mudiadau heddychol fel Cymdeithas y Cymod, a’i chylchgrawn Y Deyrnas.