CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

I Wyneb y Ddrycin - Hedd Wyn, Yr Ysgwrn a'r Rhyfel Mawr

Haf Llewelyn

I Wyneb y Ddrycin - Hedd Wyn, Yr Ysgwrn a'r Rhyfel Mawr

Pris arferol £10.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Haf Llewelyn

ISBN: 9781906396985
Dyddiad Cyhoeddi: 27 Ebrill 2017
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 210x160 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg

♥ Llyfr y Mis: Mai 2017
Cyfrol sy'n rhoi darlun byw o'r gymdeithas yn ardal Trawsfynydd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, gyda Hedd Wyn a'i deulu ar aelwyd yr Ysgwrn yn ganolbwynt i'r drafodaeth. Ceir mynegai dethol a thros 60 o luniau.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Tabl Cynnwys:
Eisteddfod y Gadair Ddu
Pennod 1: 'Gwyntoedd a mynyddoedd – yr oedd y rheiny yn rhan ohono...'
Pennod 2: Bydd popeth ar ben erbyn y Dolig
Pennod 3: I'r gad?
Pennod 4: Gwaith i'r merched
Pennod 5: Gadael ffridd, gadael ffordd y mynydd
Pennod 6: Yr Arwr
Pennod 7: Y frwydr
Pennod 8: 'Yr hyn a ofnem a ddaeth.'
Pennod 9: 'A'th fro yn cofio'r cyfan...'
Pennod 10: 'Y llanc nac anghofiwch.'
Pennod 11: Dail gwasgaredig
Pennod 12: Cadw'r aelwyd

Bywgraffiad Awdur:
Mae Haf Llewelyn yn awdur ffuglen oedolion adnabyddus a phrofodd lwyddiant gyda'i chyhoeddiadau i blant a phobl ifanc yn ogystal. Enillodd ei nofel ar hanes Hedd Wyn, Diffodd y Sêr (Y Lolfa) Wobr Tir na n-Og ar gyfer y categori uwchradd yn 2014.

Gwybodaeth Bellach:
Mae'r gyfrol hon yn cynnwys nifer o lythyrau a ffotograffau o gasgliad yr Ysgwrn, a phlethwyd patrymau o bapur wal yr Ysgwrn, ambell un yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 20Gg, yn rhan o ddyluniad y gyfrol.
Atgynhyrchwyd yn ogystal erthyglau o bapurau newydd y cyfnod.