CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Owain Glyn Dŵr - Prince of Wales

Y Lolfa

Owain Glyn Dŵr - Prince of Wales

Pris arferol £5.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: R. R. Davies
ISBN: 9781847711274
Dyddiad Cyhoeddi: 15 Chwefror 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gerald Morgan
Fformat: Clawr Meddal, 172x120 mm, 160 tudalen
Iaith: Saesneg
 Llyfr Saesneg y Mis: Ionawr 2010
Hanes gwrthryfel Owain Glyndŵr (Glyn Dŵr), gan yr hanesydd Rees Davies, y prif awdurdod yn y maes. Addasiad Saesneg gan Gerald Morgan. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2009.
Gwybodaeth Bellach:
Cyfrol Newydd Ddarllenadwy am Owain Glyn Dŵr

Roedd R R Davies, a fu farw yn 2005, yn Athro Chichele Hanes y Canol Oesoedd yng Ngholeg yr Holl Eneidiau Rhydychen, ac fe’i ystyrir fel y prif awdurdod ar hanes Owain Glyn Dŵr. Gobaith Y Lolfa yw y bydd y fersiwn Saesneg o’r llyfr, a gyhoeddwyd yn Gymraeg yn 2002, yn cyflwyno un o storiâu mwyaf grymus a chyffrous hanes Cymru i filoedd o ddarllenwyr newydd ac yn ysbrydoli pobl i ddarllen rhagor am hanes Glyn Dŵr a Chymru. Yn ddiweddar lansiwyd deisebau ac ymgyrchoedd gwe ar gyfer creu ffilm o fywyd Owain Glyn Dwr gydag enwau Ioan Gruffudd a Matthew Rhys yn cael eu crybwyll ar gyfer y brif ran. Dywedodd Lefi Gruffudd, Golygydd y Lolfa a chyn fyfyriwr i R R Davies, ei fod yn cefnogi’r ymgyrch am ffilm gan ddweud y byddai yn danfon copïau o’r gyfrol at gynhyrchwyr ffilmiau yng Nghymru a thu hwnt.

Derbyniodd y gyfrol glod o bob cyfeiriad pan y’i cyhoeddwyd yn Gymraeg. Dywedodd Dafydd Elis-Thomas, fod y naratif “yn debycach i nofel antur nag i lyfr hanes” a tarodd Gerald Morgan, cyfieithydd y gyfrol, deyrnged i R R Davies yn ei gyflwyniad i’r gyfrol, “Roedd yn fraint cael cyfieithu’r gyfrol fel teyrnged i hanesydd o Gymro yr oeddwn yn ei edmygu yn fwy na neb arall am ei gyfuniad hynod o feddwl miniog a’i gynhesrwydd fel person.”