CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370
Awdur: Elfyn Llwyd
ISBN: 9781784619527
Dyddiad Cyhoeddi: 23 Hydref 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 215x141 mm, 200 tudalen
Iaith: Cymraeg
Atgofion y cyn Aelod Seneddol, Elfyn Llwyd. Datgelir straeon o du mewn y Blaid a gweinyddiaeth San Steffan. Croniclir y digwyddiadau y bu yn rhan ohonyn nhw yn ystod bron i chwarter canrif o wasanaeth fel Aelod Seneddol dros bobl Meirionnydd Nant Conwy a Dwyfor Meirionnydd. 28 o luniau.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Ganed Elfyn Llwyd ym Metws-y-Coed, Gwynedd a fe'i magwyd yn Llanrwst. Astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yna Prifysgol y Gyfraith Caer. Gweithiodd fel cyfreithiwr ac yna bargyfreithiwr cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol. Roedd yn Aelod Seneddol Meirionnydd Nant Conwy o 1992 i 2010 ac yn Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd o 2010 i 2015 ac yn arweinydd seneddol Plaid Cymru.