CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfres Llenorion Cymru: 3. Cennad

Menna Elfyn

Cyfres Llenorion Cymru: 3. Cennad

Pris arferol £12.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Menna Elfyn

ISBN: 9781911584063
Dyddiad Cyhoeddi: 21 Mawrth 2018
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 230 tudalen
Iaith: Cymraeg

♥ Llyfr y Mis: Ebrill 2018
Dyma lên-gofiant un o feirdd amlycaf Cymru sy'n bwrw golwg dros ddeugain mlynedd a mwy o lenydda, o deithio at gynulleidfaoedd ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt, ac o roi llais i ferched ym maes barddoniaeth. Cennad yw'r drydedd gyfrol yn y gyfres boblogaidd sy'n rhoi llwyfan i'n prif lenorion drafod eu bywyd a'r dylanwadau ar eu gwaith.

Tabl Cynnwys:
Prolog
Pennod 1: Magwraeth
Pennod 2: Dylanwadau
Pennod 3: Ymgyrchydd Anfoddog
Pennod 4: Bardd a Benyw
Pennod 5: Teithiau Barddonol
Pennod 6: Cyfieithiadau
Pennod 7: Brithgofion o Wyliau Llenyddol a Phreswylfeydd
Pennod 8: Llenydda
Pennod 9: O Weithdai
Epilog
Detholiad o Gyhoeddiadau

Bywgraffiad Awdur:
Cafodd Menna Elfyn ei magu ar aelwyd y Mans ym Mhontardawe lle roedd ei thad yn weinidog gyda'r Annibynwyr. Y mae ganddi gysylltiad agos â Llandysul, a Phenrhiw-llan, lle'r ymgartefodd a magu teulu; bellach mae hi wedi symud i Gaerfyrddin lle bu, tan yn ddiweddar yn Athro Ysgrifennu Creadigol yn Adran Saesneg Prifysgol y Drindod, Dewi Sant. Y mae'n fardd ac yn llenor toreithiog, yn ddramodydd, cofianydd, libretydd a cholofynydd, ac mae ei cherddi, yn arbennig, wedi eu cyfieithu i sawl iaith. Ymysg ei casgliadau o gerddi mwyaf nodedig mae Perfect Blemish/ Perffaith Nam, New & Selected Poems 1995- 2007; Merch Perygl: Cerddi 1976-2011 (Gwasg Gomer, 2011), Murmur (Bloodaxe Books, 2012. Cyhoeddwyd ei chyfrol ddiweddaraf o gerddi, Bondo ym mis Hydref 2017 gan Bloodaxe Books.

Gwybodaeth Bellach:
'Bu’r daith ddaearol hon o edrych dros fy ysgwydd ar bererindod lenyddol yn un fendithiol: seiniaf ‘diolch o’r newydd’. Siwrne siawns yw llwybr bywyd, hwyrach, a dyna ddwyn i gof mai rhai o’m hoff eiriau wrth gychwyn cyfansoddi oedd geiriau fel diarffordd, anhygyrch, ar ddisberod, i ddifancoll, anial a’r swmpus Feiblaidd anghyfaneddle. O, fel y gallwn leisio’r gair hwnnw yn ddi-ben-draw fel adnod unwaith a rhyfeddu ato. Daw llinellau lu yn ôl ataf gyda hyn: ‘Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y rhai sydd yn efengylu’. Ond cennad i farddoniaeth oeddwn, a do, croesais sawl milltir awyr ac aur er mwyn cyrraedd rhai mannau a oedd weithiau yn llai na gweddaidd. Ond dychwelais yn gyfoethocach bob tro o wybod bod yna fondo yno’n fendith.'