CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Dod Nôl at fy Nghoed

Carys Eleri

Dod Nôl at fy Nghoed

Pris arferol £9.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Carys Eleri

ISBN: 9781800991095
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Tachwedd 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 176 tudalen
Iaith: Cymraeg

Hunangofiant yr actores a'r gomedïwraig dalentog, Carys Eleri, seren y gyfres 'Parch' ar S4C a'r sioe gomedi un fenyw, 'Lovecraft / Cer i Grafu, Sori, Garu!' Dyw marwolaeth ddim yn ddoniol, ond mae chwerthin yn iach yn gallu bod yn therapi. Mae cyfrol Carys Eleri yn trafod cyfnod anodd iddi hi ac i'w theulu yn gwbl ddi-flewyn ar dafod.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Hunangofiant yr actores a’r gomedïwraig Carys Eleri sy’n adnabyddus fel y cymeriad Myfanwy yn y ddrama boblogaidd Parch ar S4C ac am ei sioe gomedi ddwyieithog Lovecraft / Cer i Grafu… Sori… Garu! y mae hi wrthi yn ei datblygu ar gyfer y teledu. Daw Carys o'r Tymbl yn wreiddiol.

Gwybodaeth Bellach:
Wrth i yrfa’r berfformwraig amryddawn ffynnu cafodd newyddion drwg am ei thad. Roedd yn diodde o Motor Neurone Disease. Roedd ergyd arall ar y ffordd. Roedd Trystan ei ffrind gorau yn marw o ganser. Mewn cyfnod gwallgo o ran galar rhaid oedd mynd i Gaeredin i berfformio Lovecraft. Roedd pob dydd yn frwydr i gamu ar y llwyfan. O’r dwys i’r digri a’r dirdynnol mae’r gyfrol hon yn trafod bywyd a marwolaeth yn llais agos-atoch Carys Eleri.