CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370
Awdur: Huw Jones
ISBN: 9781784619459
Dyddiad Cyhoeddi: 15 Hydref 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 304 tudalen
Iaith: Cymraeg
Taith drwy fywyd Huw Jones, gyda digwyddiadau hanesyddol, gwleidyddol a diwylliannol o bwys yn gefndir i’r cwbl. Ceir hanes ei fagwraeth yng Nghaerdydd a'i ddyddiau yn Rhydychen. Mae'n hel atgofion am ei yrfa gerddorol ac am sefydlu Sain, ac mae'n croniclo’r cyfnodau o weithio ym myd teledu ac yn arbennig ei gyfnod yn Brif Weithredwr S4C. 44 o luniau.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Canwr, darlledwr a dyn busnes yw Huw Jones. Daeth yn ffigwr amlwg yng ngherddoriaeth Cymru yn y 1960au gyda’i gân brotest ‘Dŵr’. Roedd yn un o sefydlwyr Cwmni Recordiau Sain ac yn reolwr-gyfarwyddwr y cwmni hyd at 1981. Cyd-sefydlodd un o’r cwmnïau teledu annibynnol cyntaf, Teledu’r Tir Glas a’r cwmni adnoddau Barcud. Roedd yn brif weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005 a daeth yn gadeirydd Awdurdod S4C ym Mehefin 2011. Ymddeolodd o’r swydd ym Medi 2019.