CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Gwladgarwr Gwent / Son of Gwent - Cofio Steffan Lewis

Y Lolfa

Gwladgarwr Gwent / Son of Gwent - Cofio Steffan Lewis

Pris arferol £9.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781784617677
Dyddiad Cyhoeddi: 05 Rhagfyr 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Golygwyd gan Rhuanedd Richards
Fformat: Clawr Meddal, 215x141 mm, 204 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Cofiant yn Gymraeg a Saesneg gydag adran luniau i gofio un o wleidyddion mwyaf addawol Cymru yn dilyn ei farwolaeth o ganser. Cafodd Steffan Lewis ei ethol yn Aelod y Cynulliad Plaid Cymru yn 2016 - un o'r ACau ieuengaf. Fe fu farw yn 34 oed. Cyfraniadau gan deulu, ffrindiau a gwleidyddion, gan gynnwys Adam Price, Elin Jones a rhagair gan Dafydd Wigley.

Gwybodaeth Bellach:
Roedd y dyn o Went yn Gymro croyw, cadarn ac iddo yng ngeiriau Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, 'rhyw athrylith i barhau'.
Yng ngeiriau Adam Price: 'Mae Cymru yn dal yn byw o herwydd ein bod ni yn ewyllysio hynny, oherwydd y gwydnwch rhyfeddol hynny sy'n plygu heb dorri. Fe welwyd hynny ar ei ganfed ym mlwyddyn olaf Steffan, ac yntau yn llwyddo i fyw hyd yr eithaf, yn cyfrannu hyd y diwedd, yn cipio einioes o ddannedd ei waeledd cynifer o weithiau er mwyn dal i wneud gwahaniaeth dros y bobl a'r wlad a garodd ac a garodd yntau.'
Cofiant fydd yn dod â'r cyhoeddus a'r personol ynghyd.