CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Hanes Menywod Cymru 1920-60 - yn eu Geiriau eu Hunain

Catrin Stevens

Hanes Menywod Cymru 1920-60 - yn eu Geiriau eu Hunain

Pris arferol £9.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Catrin Stevens

ISBN: 9781784617660
Dyddiad Cyhoeddi: Medi 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol gyfoethog yn adrodd hanes difyr am fenywod Cymru nad ydym yn gyfarwydd â'i glywed yn cael ei drafod yn agored. Yn seiliedig ar leisiau go iawn ac yn llawn lluniau trawiadol yn darlunio bywyd menywod Cymru rhwng 1920 a 1960.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Catrin Stevens yn aelod gweithgar o'r mudiad ac yn gyn-olygydd cylchgrawn Y Wawr. Mae hefyd yn siarad â chymdeithasau a mudiadau ac yn darlithio ar y pwnc hwn.
Gwybodaeth Bellach:
I ddathlu'r mileniwm, penderfynodd Merched y Wawr, mewn partneriaeth â Choleg y Drindod, Caerfyrddin ac amgueddfa Werin Sain Ffagan, lansio prosiect hanes llafar i gofnodi profiadau menywod Cymru rhwng 1920 a 1960. Gyda chymorth grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri recordiwyd 1,000 o dapiau gan aelodau ym mhob cwr o Gymru am wahanol agweddau o'u bywydau - cofnod gwerthfawr ar gyfer haneswyr y dyfodol. Trafodir pob math o bynciau: teuluoedd, caru, priodi a chael plant, addysg, gwaith, amser hamdden a gwleidyddiaeth, gan gynnwys portreadau geiriol o unigolion.
Arweinydd y prosiect oedd Catrin Stevens, awdures a golygydd profiadol sy'n ddewis amlwg i greu naratif darllenadwy yn datgelu ac yn dathlu agweddau o fywydau menywod Cymru. Daw'r lluniau o archif y Llyfrgell Genedlaethol, archif Sain Ffagan a chasgliadau personol aelodau Merched y Wawr. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys ffotograffau o'r cyfnod,gan gynnwys gwaith y ffotograffydd Geoff Charles.