CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Het Wellt a Welis, Blwyddyn Gron yn Astwrias

Gwasg Carreg Gwalch

Het Wellt a Welis, Blwyddyn Gron yn Astwrias

Pris arferol £8.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Cathy McGill

ISBN: 9781845277994
Dyddiad Cyhoeddi: 16 Ebrill 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 199x129 mm, 180 tudalen
Iaith: Cymraeg

Y Sbaen anhysbys sydd yn Het Wellt a Welis. Mae Astwrias yn un rhan fach o’r penrhyn Iberaidd sydd yn debycach i Gymru nag i Madrid. Cynefin eirth a bleiddiaid a’r sgwid anferth – a rhywle sy’n glynu at ei draddodiadau wrth eu moderneiddio nhw. Cymdogion croesawgar a lleoliad gwych i dyfu llysiau: dyma adroddiad Cymraes aeth i fyw yno.

Gwybodaeth Bellach:
Yn ôl y Gymraes a aeth yno i fyw, dyma wlad y cymdogion croesawgar sydd hefyd yn lleoliad gwych i dyfu llysiau. Mae'n dilyn cylchdro calendr y misoedd i roi darlun o dywydd, gwaith trin y tir a'r gerddi, gwyliau a dathliadau crefyddol a lleol, a darlun o fywyd a chymdogaeth wledig am flwyddyn gron. Mae hefyd yn ein cyflwyno i'w phrofiadau ecolgol a gwleidyddol yn Astwrias.