CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Llyfr Gwyn

Gwyn Thomas

Llyfr Gwyn

Pris arferol £12.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Gwyn Thomas

ISBN: 9781906396862
Dyddiad Cyhoeddi: 23 Hydref 2015
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 218 tudalen
Iaith: Cymraeg

♥ Llyfr y Mis: Tachwedd 2015
Yn yr ail mewn cyfres o hunangofiannau llenyddol, mae un o'n prif lenorion, sef y bardd, darlithydd ac Athro prifysgol Gwyn Thomas yn trafod ei fywyd a'r dylanwadau ar ei waith. 72 o luniau du a gwyn.

Tabl Cynnwys:
Bro fy mebyd
Yr aelwyd
I'r ochr draw
Gwyliau: 'Tanygrisiau, dyma fi'n dod'
Ysbrydion
Amser rhyfel
Pethau dramatig
Byd addysg
Mythau a symbolau
Ffilmiau
Natur
Caneuon
BBC
Plant
Diwedd

Bywgraffiad Awdur:
Ganed Gwyn Thomas ym Mlaenau Ffestiniog ym 1936. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor, ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Ymgartrefodd ym Mangor a bu'n aelod o staff Adran y Gymraeg am sawl blwyddyn ac yn bennaeth adran, cyn ei ymddeoliad. Y mae’n parhau i fod yn llenor cynhyrchiol sy’n siarad â chynulleidfa eang.

Gwybodaeth Bellach:
'Rydw i'n bechadurus o gonfensiynol Gymraeg cyn belled ag y mae bro fy mebyd yn y cwestiwn:
"Mae Tanygrisiau a'r Blaenau yn annwyl i mi,
Gwlad ..."
Gwlad beth? Pechadurus o gonfensiynol eto ydi dweud mai gwlad o bobol oedd yn gymdeithas agos at ei gilydd oedd hi yn ystod fy machgendod i. Roedd yna reswm da am hynny, achos gwlad lle'r oedd llawer o'i dynion hi'n gweithio mewn creigiau, yn gweithio ynghanol mynyddoedd oedd hi, a chaledi'n dwyn pobol at ei gilydd. A gwlad oedd hi, yn fy mhlentyndod, a aeth trwy gyfnod o ryfel. Eironig, wrth gwrs, ydi'r defnydd o'r gair 'pechadurus' uchod: mater o ffaith ydi fod ein cymdeithas ni, erbyn hyn, wedi colli rhywbeth gwerthfawr iawn trwy inni i gyd fynd yn fwy crafangog a hunanol.'
Mae'r gyfrol hon yn 'Llyfr y Mis' gan Gyngor Llyfrau Cymru yn ystod Tachwedd 201