CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Waldo - Cofiant Waldo Williams 1904-1971

Alan Llwyd

Waldo - Cofiant Waldo Williams 1904-1971

Pris arferol £19.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Alan Llwyd

ISBN: 9781784610456
Dyddiad Cyhoeddi: 18 Medi 2014
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 249x170 mm, 512 tudalen
Iaith: Cymraeg

Ffigwr eiconaidd yw Waldo Williams yng Nghymru; yn wir, yn ôl un a fu'n gyfaill agos iddo, Bobi Jones: 'Cymeriad mytholegol yw ef bellach'. Mae'r cofiant hwn - y cofiant cyntaf erioed i Waldo Williams - yn chwilio am y dyn y tu ôl i'r fytholeg. Nid am y dyn yn unig y chwilir, ond am y bardd, yr heddychwr a'r ymgyrchwr, y brawdgarwr a'r brogarwr, y cenedlaetholwr a'r doniolwr.

Bywgraffiad Awdur:
Y mae Alan Llwyd yn Athro yn Academi Hywel Teifi, Coleg y Celfyddydau a Dyniaethau, Prifysgol Abertawe. Y mae Robert Rhys ac yntau newydd gwblhau golygiad newydd o holl gerddi Waldo. Cyhoeddir y cofiant a’r casgliad o gerddi ar yr un pryd. Y cofiant hwn i Waldo yw’r trydydd cofiant mewn pedwarawd o gofiannau. Eisoes cyhoeddwyd Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985 a Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884-1956, llyfr a enillodd y categori ffeithiol-greadigol yn Llyfr y Flwyddyn eleni. Cyhoeddir yr olaf o’r pedwarawd, Gwenallt: Cofiant D. Gwenallt Jones 1899-1968, yn 2015. Eleni hefyd fe gyhoeddir Hedd Wyn: Cofiant Ellis Humphrey Evans 1887-1917, fersiwn newydd – nid ailargraffiad – o’r cofiant a gyhoeddwyd ym 1991.
Gwybodaeth Bellach:
Fel y dywed awdur y cofiant hwn amdano: ‘Yr egwyddor o frawdoliaeth oedd y gwaed yn ei wythiennau, y mêr yn ei esgyrn, yr anadl yn ei ysgyfaint’. Trwy gyfuno ei ymchwil gwreiddiol ef ei hun a’r defnyddiau amhrisiadwy a gafodd gan aelodau o deulu Waldo, ei nai David Williams yn anad neb, y mae awdur y cofiant hwn yn bwrw llawer o oleuni newydd ar Waldo’r bardd ac ar ei gerddi, ac ar Waldo’r dyn yn ogystal. Ac yn goron ar y cyfan, cyflwynir a thrafodir cerddi newydd-ddarganfyddedig o waith Waldo, cerddi a ddarganfuwyd gan Alan Llwyd a Robert Rhys wrth i’r ddau gydweithio ar y gyfrol Waldo Williams: Cerddi 1922-1970.