CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Canllaw Bach Sheldon i Ffobia a Phanig

Y Lolfa

Canllaw Bach Sheldon i Ffobia a Phanig

Pris arferol £4.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Kevin Gourney
ISBN: 9781784617790
Dyddiad Cyhoeddi: 02 Gorffennaf 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 177x115 mm, 74 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae ffobiâu a phyliau o banig yn difetha bywydau llawer o bobl. Ond mae newid yn bosibl. Gyda'r canllaw bach hwn byddwch yn dysgu sut i oresgyn y gorbryder sydd wrth wraidd y symptomau annifyr hyn, gan ddefnyddio rhaglen hunangymorth effeithiol. Cyfiethiad Cymraeg.
Tabl Cynnwys:
· deall ofn a gorbryder
· achosion a thriniaethau
· diffi nio’ch problem
· dewis eich targedau neu’ch nodau
· penderfynu ar eich cynllun a’i roi ar waith
· cadw dyddiadur
· rheoli panig
· dewisiadau yn ymwneud â’ch ffordd o fyw
Bywgraffiad Awdur:
Mae’r Athro Kevin Gournay CBE yn Athro Emeritws yn y Sefydliad Seiciatreg, Seicoleg a Niwrowyddoniaeth (Coleg y Brenin, Llundain). Yn ei waith clinigol yn ysbyty’r Priory, yng ngogledd Llundain, mae’n trin ffobiâu, panig ac anhwylderau gorbryder eraill, gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ac anhwylder gorfodaeth obsesiynol. Mae wedi rheoli prosiectau ymchwil a hyfforddiant yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd, ac mae’n ymgynghorydd i Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’n awdur toreithiog ac mae wedi ysgrifennu nifer
o lyfrau Sheldon. Yn ogystal â bod yn llywydd, noddwr a sylfaenydd yr elusen No Panic, mae hefyd yn noddi nifer o elusennau eraill ac yn eu cynghori.