CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370
Awdur: Susan Yarney
ISBN: 9781783903375
Dyddiad Cyhoeddi: 14 Hydref 2020
Cyhoeddwr: Canolfan Peniarth, Caerfyrddin
Darluniwyd gan Chris Martin
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Testun.
Fformat: Clawr Meddal, 230x153 mm, 64 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dewch i gwrdd â Ben – bachgen ifanc ag ADHD. Mae Ben yn gwahodd darllenwyr i ddysgu am ADHD o’i safbwynt ef. Mae’n helpu plant i ddeall beth mae’n ei olygu i fod ag ADHD ac yn disgrifio’r cyflwr a sut mae’n teimlo. Mae Ben yn esbonio sut y cafodd ddiagnosis a beth mae wedi’i ddysgu am ffyrdd i leddfu ei symptomau ADHD, a sut y gall ffrindiau ac oedolion helpu ei gilydd.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Pediatregydd Niwroddatblygiadol sy’n arbenigo mewn ADHD yw Susan Yarney ac mae’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae hi’n darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer ADHD yn ei sefydliad, sy’n cefnogi 1200 o blant ag ADHD. Bu’n aelod o grwpiau ymgynghori ADHD ac mae’n awdur a siaradwr cyson ar bynciau’n ymwneud ag ADHD.