CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Heulwen Davies
ISBN: 9781784615512
Dyddiad Cyhoeddi: 27 Chwefror 2018
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Darluniwyd gan Huw Aaron
Fformat: Clawr Meddal, 200x201 mm, 140 tudalen
Iaith: Cymraeg
♥ Llyfr y Mis: Mawrth 2018
Llyfr ffeithiol i famau newydd. Mae'n arwain y fam drwy'r beichiogrwydd, hyd ddiwedd blwyddyn gyntaf y plentyn. Cynhwysir nifer o benodau byrion, yn seiliedig ar brofiad yr awdur, ynghyd â nifer o ddyfyniadau gan famau eraill o bob cwr o Gymru.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Heulwen yn Rheolwr Marchnata gyda Gwasg Atebol. Bu’n gynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu am 6 mlynedd ac yn gynhyrchydd radio am 7 mlynedd. Mae’n fam i Elsi Dyfi, sydd erbyn hyn yn 5 oed. Mae Heulwen yn gweinyddu y blog newydd dwyieithog, poblogaidd, mamcymru.
Gwybodaeth Bellach:
Bydd dyfyniadau gan famau eraill a bydd trawstoriad o famau o bob cwr o Gymru yn cyfrannu, yn ogystal ag arbenigwyr yn y maes. Bydd cartwnau Huw Aaron yn ychwanegu at yr hiwmor yn y gyfrol.