CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

'Y Mae y Lle yn Iach' - Chwarel Dinorwig 1875-1900

Elin Tomos

'Y Mae y Lle yn Iach' - Chwarel Dinorwig 1875-1900

Pris arferol £8.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Elin Tomos

ISBN: 9781845277284
Dyddiad Cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 152 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae'r gyfrol yn canolbwyntio ar anghenion iechyd a gofal pobl yn ardaloedd y llechi yn Nyffryn Peris a thu hwnt. Pan oedd y diwydiant ar ei anterth, roedd dros 14,000 o chwarelwyr yng Ngwynedd. Roedd peryglon y gwaith a'r heintiau a'r afiechydon a godai o'r tlodi a'r diffyg darpariaeth iechyd, yn cyfrannu at anghydfodau diwydiannol.

Gwybodaeth Bellach:
Pan oedd y diwydiant ar ei anterth, roedd dros 14,000 o chwarelwyr yng Ngwynedd. Roedd peryglon y gwaith a'r heintiau a'r afiechydon a godai o'r tlodi a'r diffyg darpariaeth iechyd, yn cyfrannu at anghydfodau diwydiannol. Arweiniodd hefyd at greu cymdeithas glòs, ofalus o'i gilydd a sefydlu ysbytai chwarel.
Defnyddiodd Elin Tomos, sy'n enedigol o Nant Peris, erthyglau papur newydd, llythyrau personol, rhestrau bedyddio a chladdu'r plwyf, cofnodlyfrau meddygol, cofnodion pwyllgorau a chymdeithasau amrywiol, papurau llywodraethol a chanfyddiadau ymholiadau swyddogol er mwyn canfod yr hanes. Yng nghalon y gyfrol mae casgliad arbennig o ffotograffau a gynhwyswyd gyda'r bwriad yn anad dim i gyfleu naws yr ardal a'r cyfnod.
"Mae'r gyfrol deimladwy ac arloesol yma yn fodd i ddangos nad oedd hi'n nefolaidd ar bawb. Mae hefyd yn codi cwr y llen ar fywydau merched mewn ardal lle mae profiad gwaith dynion wedi cuddio eu cyfraniad a'u stori'n llwyr."
- Dafydd Roberts, Amgueddfa Lechi Cymru