CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Babel

Ifan Morgan Jones

Babel

Pris arferol £9.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Ifan Morgan Jones

ISBN: 9781784617127
Dyddiad Cyhoeddi: Gorffennaf 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 215x142 mm, 354 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel ddirgelwch ddarllenadwy a chyffrous, wedi ei lleoli mewn tref ddiwydiannol yn ail hanner y 19eg ganrif. Mae'r prif gymeriad Sara yn dianc o afael ei thad sy'n weinidog alcoholig, ac yn dod i'r dre, wedi gweld hysbyseb am swydd newyddiadurol yng ngwasg Joseph Glass, dyn busnes rhyddfrydol a golygydd papur newydd Llais y Bobol.

Bywgraffiad Awdur:
Cyn-enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen am Igam Ogam yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008. Cafodd ei nofel ddiwethaf Dadeni ganmoliaeth uchel.
Bu'n Ddirprwy Olygydd ar gylchgrawn Golwg o fis Mai 2006 hyd ddiwedd 2008, ac yn Olygydd gwefan Golwg360 rhwng Ionawr 2009 a Medi 2011.
Mae bellach yn ddarlithydd yn adran Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor. Mae'n olygydd Nation.Cymru arlein. Mae'n ysgrifennu ei flog ei hun ac yn fywiog wrth drydar a hybu ei lyfrau ei hun. Mae'n gyfrannwr cyson yn y wasg Gymraeg ac yn hyderus wrth siarad gyda chlybiau a chymdeithasau. O Waunfawr yng Ngwynedd yn wreiddiol mae bellach yn byw ym Mhenrhiwllan ger Llandysul.
Gwybodaeth Bellach:
Canmoliaeth i Dadeni:
"Mae yma awdur a chanddo adnoddau rhyfeddol... deallusrwydd sy'n disgleirio." – Fflur Dafydd
"Dyma epig o gynhyrchiad, nofel uchelgeisiol ar y naw sy'n plethu realiti a rhith drwyddi draw." – Jon Gower
Gwobrau:
Cyn-enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen am Igam Ogam yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008.