CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Mark Llewelyn Evans
ISBN: 9781913134266
Dyddiad Cyhoeddi: 28 Awst 2020
Cyhoeddwr: Graffeg, Llangennech
Darluniwyd gan Karl Davies
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce.
Fformat: Clawr Meddal, 250x200 mm, 64 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dysgwch am fyd cyffrous yr opera yng nghwmni Cist, Jac a Megan. Mentrwch gyda nhw yn ôl drwy niwloedd amser i Fflorens yn yr Eidal. 1597 - cychwyn y cyfnod Baróc. Cewch gwrdd â Professore Peri, dyfeisiwr yr opera, Purcell Perffaith, Handel Hanfodol, a sawl cyfansoddwr diddorol arall. Mae popeth yn mynd yn hwyliog hyd nes bod Cromwell Creulon yn cyrraedd.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Dewch gyda ni ar daith na welwyd ei thebyg erioed o'r blaen.
Ysgrifennwyd gan Mark Llewelyn Evans. Darluniwyd gan Karl Davies.
'Mae'r gymeriadaeth yn wych a'r sgwennu'n rhwydd, gan eich annog i ddarllen yn eich blaen. Dyma lyfr sy'n llawn ffeithiau difyr.' Terry Deary, awdur Horrible Histories
'Gwledd i'r llygad, a stori'r opera wedi'i hadrodd mewn ffordd hwyliog ac atyniadol iawn.' Syr Bryn Terfel CBE