CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Cyfres Rygbi: 2. Rhyfelwr Rygbi

Gwasg Carreg Gwalch

Cyfres Rygbi: 2. Rhyfelwr Rygbi

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Gerard Siggins

ISBN: 9781845275860
Dyddiad Cyhoeddi: 29 Mawrth 2017
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gwenno Hughes
Addas i oed 9-11
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 150 tudalen
Iaith: Cymraeg

Ail deitl y gyfres rygbi am Owain yn ei ysgol newydd. Mae'n gapten ar y tîm dan 14 oed, a rhaid iddo geisio pontio'r tyndra rhwng dau chwaraewr sy'n brwydro am safle'r mewnwr. Yn ogystal, mae ei waith ymchwil ar brosiect am aelod o'r tîm rygbi cenedlaethol a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn ei gysylltu ag ysbryd o'r gorffennol. Addasiad Cymraeg Gwenno Hughes o destun llawn cyffro.

Gwybodaeth Bellach:
Yn ei ysgol newydd, mae gan Owain Madden gyfrifoldebau newydd. Ef bellach yw capten y tîm dan 14 ac mae’n rhaid iddo bontio’r tyndra sy’n codi rhwng ei ffrind Rory a Dylan, y bachgen newydd, wrth iddynt frwydro am safle mewnwr y tîm.
Ac oddi ar y cae, mae gan Owain lond ei ddwylo. Mae wedi dechrau ar brosiect am aelod o’r tîm rygbi cenedlaethol a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Daw hanes yn fyw wrth i hen lyfr ddod ag Owain yn nes at y chwaraewr chwedlonol nag y gwnaeth erioed ddychmygu.