CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Cyfres yr Onnen: Trwy'r Tonnau

Manon Steffan Ros

Cyfres yr Onnen: Trwy'r Tonnau

Pris arferol £5.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Manon Steffan Ros

ISBN: 9781847710758
Dyddiad Cyhoeddi: Awst 2009
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 192 tudalen
Iaith: Cymraeg

Yn y dilyniant hwn i'r nofel Trwy'r Darlun, mae Cledwyn, Siân a Gili Dŵ'n cael antur arall. Mae Trwy'r Tonnau yn datrys mwy o ddirgelion am eu rhieni a chawn gwrdd â chymeriadau newydd sbon. Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2010.

Gwybodaeth Bellach:
Dilyniant i Trwy’r Darlun a gyhoeddwyd gan Y Lolfa yn 2008. Mae’n un o lyfrau Cyfres yr Onnen, sef cyfres o nofelau heriol i ddarllenwyr da rhwng 9 a 12 oed.

Aiff Cled a Siân unwaith eto i wlad hudol Crug, sy'n llawn peryglon a dirgelion, wedi iddynt weld arwydd yn y tywod oddi wrth eu tad. Mae'r ddau'n cwrdd a Gili Dŵ annwyl yng Nghrug a chawn gyfarfod a chymeriadau newydd fel Pobol y Coed, yn arbennig Mael o Abermorddu, sy'n creu tipyn o argraff ar Siân. Mae mudiad YCH (Ymgyrch Cadw Heddwch) a'r hen elyn, Arianwen, am ddial arnynt, ac yn lledaenu celwyddau ac ofn yng nghalonnau pobl am Cled a Siân. Maent yn hwylio ar y llong "Una" sy'n eiddo i Mina'r ddewines ac yn dechrau ar antur a all newid eu bywydau am byth.