CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Dyma Ni - Sut i Fyw ar y Ddaear / Here We Are - Notes for Living on Planet Earth

Atebol

Dyma Ni - Sut i Fyw ar y Ddaear / Here We Are - Notes for Living on Planet Earth

Pris arferol £12.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Oliver Jeffers
ISBN: 9781912261987
Dyddiad Cyhoeddi: 31 Hydref 2019
Cyhoeddwr: Atebol, Aberystwyth
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Eurig Salisbury
Fformat: Clawr Caled, 287x248 mm, 46 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
 Llyfr y Mis i Blant: Ionawr 2020
Gall y byd hwn fod yn lle dryslyd iawn weithiau, yn enwedig os wyt ti newydd gyrraedd. Tyrd i weld y blaned lle ry'n ni'n byw, er mwyn ateb rhai o'r cwestiynau sy'n berwi yn dy ben. O'r tir a'r môr i bobl ac amser, gall y llyfr hwn dy roi ar ben ffordd. Byddi di'n dod i ddeall rhai pethau ar dy ben dy hun hefyd. Ond cofia adael nodiadau ar gyfer pawb arall...
Bywgraffiad Awdur:
Mae Eurig yn fardd, yn awdur ac yn ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd yn fardd plant Cymru rhwng 2011-13 ac yn 2016, enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau, a hynny gyda'i nofel gyntaf.
Gwybodaeth Bellach:
Gall ein planed ni fod yn lle cymhleth iawn weithiau, ond gall fod yn syml iawn hefyd: mae llawer ohonon ni yma, felly bydd yn garedig.