CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

M am Awtistiaeth

Atebol

M am Awtistiaeth

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: The Students of Limpsfield Gr, Vicky Martin

ISBN: 9781801060233 
Dyddiad Cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2020
Cyhoeddwr: Atebol
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Tudur Dylan Jones.
Fformat: Clawr Meddal, 217x141 mm, 94 tudalen
Iaith: Cymraeg

M. Dyna beth hoffwn i chi fy ngalw i, plis. M. Fe ddyweda i pam nes ’mlaen. Dyma lyfr a ysgrifennwyd ac a ddarluniwyd ar gyfer merched yn eu harddegau ag awtistiaeth gan ferched yn eu harddegau ag awtistiaeth.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Croeso i fy myd i. Mae’n fyd pendramwnwgl, sur a chwerw, ac mae bwystfil gorbryder yn llercian y tu allan i bob stafell ddosbarth ac yn fy stopio i rhag cael bodolaeth normal. Dw i eisiau bodolaeth NORMAL.
Dw i eisiau bod fel merched eraill fy oed i sy’n gwybod beth i’w ddweud a’i wneud. Dw i eisiau bod gyda Lynx a’i wefusau melys a’r gel yn ei wallt; Lynx sy’n werth y byd i gyd yn grwn. Felly pam mae hi’n teimlo fel petawn i’n bodoli ar blaned wahanol i bawb arall? A beth yn y byd ydy normal?