CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Mali a'r Goleudy

Graffeg

Mali a'r Goleudy

Pris arferol £12.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Malachy Doyle
ISBN: 9781913634179
Dyddiad Cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2020
Cyhoeddwr: Graffeg, Caerdydd
Darluniwyd gan Andrew Whitson
Fformat: Clawr Caled, 250x250 mm, 36 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae Mali'n deffro yn y nos gan wybod bod rhywbeth o'i le – rhywbeth mawr. Mae'r goleudy y tu allan i'w ffenest yn dywyll fel y fagddu. Heb ei belydryn, sut gall ei thad, sydd allan yn pysgota ar y môr tywyll yn ei gwch bach coch, ddod yn ôl i'r harbwr yn ddiogel? Rhaid i Mali ailgynnau'r golau … ar unwaith!
Bywgraffiad Awdur:
Mae dros gant o lyfrau Malachy Doyle wedi cael eu cyhoeddi, o lyfrau bwrdd i'r plant lleiaf i nofelau afaelgar i ddarllenwyr yn eu harddegau. Mae wedi ennill nifer o wobrau pwysig, ac mae ei lyfrau wedi'u cyfieithu i ryw ddeg ar hugain o ieithoedd. Yn ogystal â'r ddwy stori flaenorol yng nghyfres Mali, Mali a'r Môr Stormus a Mali a'r Morfil, rhai o'i deitlau diweddar eraill yw Miracle of Hanukkah, Rama and Sita, Jack and the Jungle a Big Bad Biteasaurus (Bloomsbury), Fug and the Thumps (Firefly), Cinderfella (Walker Books) a Ootch Cootch (Graffeg), wedi'i ddarlunio gan ei ferch, Hannah Doyle.

Daw Andrew Whitson o Belfast ac mae'n artist arobryn sy'n hoffi cael ei alw'n Mr Ando! Mae Mr Ando wedi darlunio dros ugain o lyfrau o dan ei enw ei hun. Y diweddaraf o'r rhain yw llyfrau cyfres Mali gyda Malachy Doyle, a chyfres arobryn Rita, sef llyfrau stori-a-llun, gyda Myra Zepf.