CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Na, Nel!

Meleri Wyn James

Na, Nel!

Pris arferol £4.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Meleri Wyn James

ISBN: 9781847718952
Dyddiad Cyhoeddi: 02 Chwefror 2018
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Darluniwyd gan John Lund
Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 112 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae Nel yn ferch ddireidus ac yn y gyfrol hon mae tair stori ddigri. Mae ei rhieni'n gorfod gweiddi Na, Nel! arni'n aml! Addas ar gyfer darllenwyr 7 i 9 oed ond i'w mwynhau gan blant o bob oed!

Gwybodaeth Bellach:

Er mai Na, Nel! yw ei chyfrol gyntaf i blant rhwng 7 a 9 oed, mae’r awdures brofiadol eisoes wedi cyhoeddi pymtheg o nofelau a chyfrolau o straeon byrion i oedolion ac i’r arddegau. Mae hefyd yn awdur colofn i gylchgrawn Y Wawr am y profiadau dyrys a digri o fod yn fam ac mae’n gweithio fel golygydd creadigol i wasg y Lolfa.

Tair stori ddoniol am ferch ddrygionus yn arddull Horrid Henry a geir yn Na, Nel!. Mae’r llyfr wedi’i anelu at ddarllenwyr rhwng 7 a 9 oed, ond mae hefyd yn addas i’w ddarllen i blant ieuengach. Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys lluniau deniadol a doniol gan yr artist John Lund o Gaerdydd. Mae John wedi gweithio gyda’r artist Joanna Quinn, sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith, gan gynnwys dau enwebiad am Oscar.