CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Na, Nel!: Aaaa!

Meleri Wyn James

Na, Nel!: Aaaa!

Pris arferol £4.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Meleri Wyn James

ISBN: 9781784612658
Dyddiad Cyhoeddi: 23 Mawrth 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Meddal, 195x129 mm, 96 tudalen
Iaith: Cymraeg

Na, Nel! yw'r geiriau mae rhieni, brawd ac athrawon Nel yn gorfod eu dweud yn aml iawn. Mae Nel yn ferch ddireidus iawn, ac yn y gyfrol hon ceir tair stori ddigri yn ymwneud â chladdu pysgodyn aur, a chawn hefyd gwrdd ag ambell gymeriad newydd.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Meleri yn byw yn Aberystwyth ac yn gweithio fel Golygydd Llyfrau Cymraeg i Oedolion i wasg y Lolfa. Mae hi wedi cyhoeddi dros 16 o lyfrau, gan gynnwys 4 llyfr arall yng nghyfres Na, Nel! i blant. Mae'n fam i ddwy o ferched ac yn ysgrifennu colofn rheolaidd am fywyd mam i gylchgrawn Y Wawr. Mae'n teithio Cymru yn hyrwyddo'r gyfres mewn ysgolion, gwyliau ac Eisteddfodau.
Gwybodaeth Bellach:
"Na, Nel!" yw'r geiriau mae rhieni, brawd ac athrawon Nel yn gorfod eu dweud yn aml iawn.
Mae Nel yn ferch ddireidus ac yn y gyfrol newydd hon ceir tair stori ddigri yn ymwneud â chladdu pysgodyn aur a chawn gwrdd ag ambell gymeriad newydd. Mae pob un o'r storïau tua 2,000 o eiriau ac wedi'u rhannu'n 3 neu 4 pennod fer.
Mae'r gyfres wedi'i hanelu at ddarllenwyr 6-8 oed ac yn addas ar gyfer rhiant/athro i'w darllen ar gyfer 5-10 oed.
Cyfres apelgar o ran diwyg, gyda lluniau deniadol du a gwyn John Lund drwy'r llyfrau.