CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Trio ac Antur yr Eisteddfod

Manon Steffan Ros

Trio ac Antur yr Eisteddfod

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Manon Steffan Ros

ISBN: 9781913245238 
Dyddiad Cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2020
Cyhoeddwr: Atebol, Aberystwyth
Darluniwyd gan Huw Aaron
Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 72 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma'r trydydd llyfr yn y gyfres o dri sy'n dilyn anturiaethau 'Trio' - grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac yn anobeithiol o benderfynol o achub y dydd.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Manon yn awdur ac yn ddramodydd sydd wedi ennill llu o wobrau am ei gwaith. Enillodd y Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwy flynedd yn olynol yn 2005 a 2006 ac mae wedi ennill Gwobr Tir na n-Og bum gwaith, yn 2010, 2012, 2017, 2019 a 2020. Cafodd ei henwi’n Brif Lenor Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 wedi iddi gipio’r Fedal Ryddiaith, a chyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai Llyfr Glas Nebo gan Manon oedd Llyfr y Flwyddyn 2019.


Gwybodaeth Bellach:
Mae Trio, sef Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo eisoes wedi cael anturiaethau yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chastell Caernarfon, ond y tro hwn maen nhw’n mentro i faes yr Eisteddfod! O fewn munudau i gyrraedd y maes, mae’r tri ffrind yn clywed si am antur... mae Cadair yr Eisteddfod wedi diflannu! Dilynwn y criw wrth iddyn nhw grwydro’r maes yn chwilio am y lleidr dieflig – a chamgyhuddo ambell eisteddfodwr ar y ffordd.
Cyfres ysgafn a phoblogaidd, gyda digon o hiwmor i ddenu darllenwyr ifanc, newydd!