CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

100 o Ganeuon Pop

Y Lolfa

100 o Ganeuon Pop

Pris arferol £14.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781847712417
Dyddiad Cyhoeddi: Ebrill 2015
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Golygwyd gan Meinir Wyn Edwards
Fformat: Clawr Meddal, 250x193 mm, 192 tudalen
Iaith: Cymraeg

Llyfr bach hylaw yn cynnwys 100 o ganeuon pop Cymraeg mwyaf poblogaidd y deugain mlynedd diwethaf ar ffurf alawon, geiriau a chordiau gitâr syml. Mae'n cynnwys caneuon oesol fel 'Pishyn', 'Calon', 'Tŷ ar y Mynydd', 'Trôns dy Dad' a 'Lisa, Majic a Porfa'. Cyfrol angenrheidiol i bawb sy'n hoffi canu.

Tabl Cynnwys:
1. Abacus – Bryn Fôn a’r Band
2. Adra – Gwyneth Glyn
3. Ai am fod haul yn machlud? – Dafydd Iwan
4. Blaenau Ffestiniog – Tebot Piws
5. Bore - Ryan
6. Bore da – Euros Childs
7. Breuddwyd roc a rôl – Edward H. Dafis
8. Bwthyn – Derwyddon Dr Gonzo a Gwyneth Glyn
9. Bythol wyrdd – Tecwyn Ifan
10. Calon - Injaroc
11. Cân Walter – Meic Stevens
12. Cân y siarc – Gwyneth Glyn
13. Cân yn ofer – Edward H. Dafis
14. Carolina – Cerys Matthews
15. Ceidwad y goleudy – Mynediad am Ddim
16. Cerddwn ymlaen – Dafydd Iwan ac Ar Log
17. Cerrig yr afon – Iwcs a Doyle
18. Coffi du – Gwibdaith Hen Frân
19. Cofio dy wyneb – Mynediad am Ddim
20. Colli iaith – Heather Jones
21. Cãn a’r brain – Big Leaves
22. Cwsg, Osian – allan o’r opera roc Nia Ben Aur
23. Cymru, Lloegr a Llanrwst – Y Cyrff
24. Chwara dy gêm - Anweledig
25. Chwarae’n troi’n chwerw - Bando
26. Dala fe ’nôl – Fflur Dafydd a’r Barf
27. Disgyn (amdanat ti) - Sibrydion
28. Dwi’n ama dim - Celt
29. Dãr – Huw Jones
30. Dybl jin a tonic – Meinir Gwilym
31. Dyro wên i mi - Bando
32. Eldon Terrace – Daniel Lloyd a Mr Pinc
33. Ethiopia newydd – Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr
34. Ffrindia – Maffia Mr Huws
35. Geiriau – Ail Symudiad
36. Gerfydd fy nwylo gwyn – Twm Morys
37. Gitâr yn y to – Maffia Mr Huws
38. Gwaed ar yr eira gwyn – Tecwyn Ifan
39. Gwesty Cymru – Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr
40. Gyda gwên - Catatonia
41. Harbwr diogel – Elin Fflur a’r Moniars
42. Hawl i fyw – Dafydd Iwan
43. Hi yw fy ffrind – Mynediad am Ddim
44. Lisa, magic a porva – Radio Luxembourg
45. Lleisiau yn y gwynt - Brigyn
46. Lleucu Llwyd – Tebot Piws
47. Macrall wedi ffrio – Endaf Emlyn
48. Mae rhywun wedi dwyn fy nhrwyn – Tebot Piws
49. Mae rhywun yn y carchar – Dafydd Iwan
50. Mardi-gras ym Mangor Ucha – Sobin a’r Smaeliaid
51. Merch tñ cyngor – Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr
52. Mistar Duw – Edward H. Dafis
53. Mor dawel – Caryl Parry Jones
54. Môr o gariad – Meic Stevens
55. Ni yw y byd – Gruff Rhys
56. Nos da, nawr – Lleuwen Steffan
57. Nos Sadwrn Abertawe – Neil Rosser
58. Nid llwynog oedd yr haul – Geraint Løvgreen a’r Enw Da
59. Nos Sul a Baglan Bay – Huw Chiswell
60. Nwy yn y nen – Tebot Piws
61. Os na wnei di adael nawr - Brigyn
62. Paid â bod ofn - Eden
63. Pam fod adar yn symud i fyw? - Sibrydion
64. Pam fod eira’n wyn? – Dafydd Iwan
65. Pan ddaw yfory - Bando
66. Pan fo cyrff yn cwrdd – Trwynau Coch
67. Pan fo’r nos yn hir - Ryan
68. Penrhyn Llñn – John ac Alun
69. Pishyn – Edward H. Dafis
70. Rebal wîcend – Bryn Fôn a’r Band
71. Rue St Michel – Meic Stevens
72. Rhedeg i Paris – Yr Anrhefn
73. Rhywbeth bach yn poeni – Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr
74. Rhywbeth o’i le – Huw Chiswell
75. Seithennyn – Big Leaves
76. Stesion Strata – Tecwyn Ifan
77. Tafarn yn Nolrhedyn – Mim Twm Llai
78. Tân yn Llñn - Plethyn
79. Ti a dy ddoniau - Ryan
80. Traws Cambria – Steve Eaves a Rhai Pobl
81. Trên bach y sgwarnogod – Bob Delyn a’r Ebillion
82. Trên i Afon-wen – Sobin a’r Smaeliaid
83. Tri mis a diwrnod - Vanta
84. Trôns dy dad – Gwibdaith Hen Frân
85. Tñ ar y mynydd - Maharishi
86. Tñ Coz – Dafydd Dafis
87. Wyt ti’n gêm? – Meinir Gwilym
88. Wyt ti’n mynd i adael? – Meinir Gwilym
89. Y bardd o Montreal – Bryn Fôn a’r Band
90. Y brawd Houdini – Meic Stevens
91. Y cwm – Huw Chiswell
92. Y Dref Wen – Tecwyn Ifan
93. Y sãn – Bob Delyn a’r Ebillion
94. Y teimlad - Datblygu
95. Yfory – Eirlys Parri
96. Yma o hyd – Dafydd Iwan ac Ar Log
97. Yma wyf inna i fod – Geraint Løvgreen
98. Ymlaen mae Canaan – Steve Eaves a Rhai Pobl
99. Ysbryd Solfa – Meic Stevens
100.Ysbryd y nos – Edward H. Dafis
Gwybodaeth Bellach:
Clasuron Pop Cymraeg Mewn Cyfrol

Yn llawn clasuron gan gyfansoddwyr fel Dafydd Iwan, Caryl Parry Jones a Geraint Jarman, mae’r gyfrol yn cynnwys caneuon fel ‘Y Cwm’, ‘Môr o Gariad’, ’Seithennyn’ a sawl ffefryn arall.

Meinir Wyn Edwards o’r Lolfa gafodd y dasg o geisio dewis y 100 cân sy’n cael eu cynnwys yn y gyfrol, tasg a aeth â hi ar daith gerddorol. “Roedd dewis 100 o ganeuon pop yn anodd, nid oherwydd diffyg caneuon ond oherwydd bod gormod o ganeuon da ar gael. Roedd cael trawstoriad eang yn bwysig ac ro’n i’n bendant am i’r caneuon apelio at ystod eang o oedran a chynnwys amrywiaeth o ran arddull. Nid caneuon mewn arddull ‘pop’ ydyn nhw i gyd - e.e. mae i ‘Colli Iaith’ a ‘Cân y Siarc’ naws fwy gwerinol, ac mae rhai o ganeuon Jarman mewn arddull reggae - ond gobeithio bod rhywbeth yma i bawb. Dwi’n siŵr na fydd pob cân at ddant pob un, a fi sydd ar fai os nad yw eich hoff gân chi yn y casgliad!” meddai Meinir.

Mae’r gyfrol yn cynnwys clasuron fel ‘Yma o Hyd’, ‘Chwarae’n troi’n Chwerw’, ‘Lleucu Llwyd’, ‘Harbwr Diogel’; caneuon o’r gorffennol sydd wedi parhau’n boblogaidd hyd heddiw fel ‘Cân Walter’, ‘Ysbryd y Nos’; a chaneuon a fydd yn siŵr o fod yn boblogaidd am ddegawdau i ddod fel ‘Trôns dy dad’, ‘Tŷ ar y Mynydd’, ‘Seithennyn’ a ‘Lisa, Magic a Porva’.

Mae alawon syml a chordiau gitâr yn cyd-fynd â phob cân er mwyn hwyluso’r dasg o’u chwarae. Llyfr perffaith felly i rai sy’n dysgu chwarae’r gitâr, i fysgwyr neu unrhyw un sydd wrth eu bodd â cherddoriaeth a chaneuon Cymreig. A hithau hoff iawn o gerddoriaeth, roedd creu’r gyfrol hon yn gyfuniad o waith a phleser i Meinir.