CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Atgofion drwy Ganeuon: Garej Paradwys

Richard Jones

Atgofion drwy Ganeuon: Garej Paradwys

Pris arferol £8.50
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Richard Jones

ISBN: 9781845277208
Dyddiad Cyhoeddi: 26 Mehefin 2019
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 130 tudalen
Iaith: Cymraeg

Atgofion drwy ganeuon Ail Symudiad. Sefydlwyd y band a'r cwmni recordio Fflach gan y brodyr Richard a Wyn Jones, y band yn 1978 a'r cwmni dair blynedd yn ddiweddarach. Mae'r band yn dal mor boblogaidd ag erioed ac mae'r cwmni recordio ymhlith y mwyaf arloesol, un a roddodd gychwyn i ddwsenni o fandiau ac artistiaid ifanc a newydd.

Gwybodaeth Bellach:
Erbyn hyn mae cwmni recordiau Fflach a'r band Ail Symudiad yn gymaint rhan o ffabrig tref Aberteifi â chastell yr Arglwydd Rhys. Mae eu dylanwad yn llawer ehangach.
Yn y gyfrol hon mae Richard yn adrodd, drwy ymron ddwsin o’i ganeuon, am ei ran ef a’r band yn hanes a datblygiad canu poblogaidd Cymraeg dros y deugain mlynedd diwethaf. Mae’r cyfan yma, yr uchelfannau a’r dyfnderoedd, y lleddf a’r llon, y doniol a’r difrif. Fel y band, dyma stori sy’n fwrlwm afieithus o’r dechrau i’r diwedd. Ac mae’r stori’n parhau gan fod y gân olaf yn edrych ymlaen at yr eisteddfod genedlaethol sydd i’w chynnal yng Ngheredigion. Dyma’r grŵp pop cyntaf i berfformio ar y Maen Llog!