CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Seiniwn Hosanna - Casgliad o Garolau Plygain Cymraeg

Plygain

Seiniwn Hosanna - Casgliad o Garolau Plygain Cymraeg

Pris arferol £10.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Dyddiad Cyhoeddi: 26 Hydref 2022
Cyhoeddwr: Plygain
Golygwyd gan Arfon Gwilym, Sioned Webb
Fformat: Clawr Meddal, 240x170 mm, 146 tudalen
Iaith: Cymraeg

Casgliad newydd o garolau plygain, ynghyd â hanes yr hen garolwyr. Wedi eu trefnu ar gyfer lleisiau amrywiol: TTB / SAT / SAB / SSA / SATB.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Gwybodaeth Bellach:

Cyhoeddir y casgliad newydd hwn o garolau plygain wrth i'r carolwyr baratoi i ailafael yn y traddodiad ar ôl bwlch o bron i dair blynedd - bwlch na welwyd ei debyg o fewn cof unrhyw un.

Yn ystod y 'clo mawr', profodd y ddwy Blygain 'rithiol' ar y we [Rhagfyr 2020 a Ionawr 2021] fod carolwyr ym mhob rhan o Gymru yn benderfynol o ddal ati. Trwy ychwanegu at y stoc o garolau, y gobaith yw rhoi hwb pellach i'r hen draddodiad gwydn hwn.

Fel atodiad i'r carolau yn y gyfrol hon, ychwanegwyd rhywbeth a esgeuluswyd braidd hyd yn hyn, sef hanes y bobl a fu wrthi ar hyd y blynyddoedd yn cynnal y traddodiad. Nid pobl yn chwennych bri ac enwogrwydd oedd y rhain; ond dyletswydd unrhyw genedl gwerth ei halen yw cydnabod eu cyfraniad, cyn
i’w hanes fynd yn rhan o "hen bethau anghofiedig teulu dyn".