CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Serch a'i Helyntion - Dadansoddiad o Ganeuon Gwerin Cymraeg

Y Lolfa

Serch a'i Helyntion - Dadansoddiad o Ganeuon Gwerin Cymraeg

Pris arferol £12.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Meredydd Evans
ISBN: 9781784617035
Dyddiad Cyhoeddi: 18 Mehefin 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 215x142 mm, 224 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae'r llyfr hwn yn dadansoddi detholiad o ganeuon gwerin serch Cymraeg, gan sylwi ar eu cefndir, yr amrywiadau a geir ynddynt o ran geiriau ac alaw, a'r hyn y maent yn ei ddangos am y traddodiad gwerin Cymraeg.
Bywgraffiad Awdur:
Cydnabyddir Meredydd Evans fel prif ladmerydd y byd canu gwerin Cymraeg, a mawr fu ei ddylanwad ar sawl cenhedlaeth o gantorion ac offerynwyr yng Nghymru a thu hwnt. Hyrwyddodd gerddoriaeth o Gymru ar draws y byd. Cyhoeddodd sawl cyfrol a chasgliadau o ganeuon gwerin sydd erbyn hyn yn rhan o etifeddiaeth gerddorol Cymru.
Gwybodaeth Bellach:
Pan fu farw Dr Meredydd Evans ym mis Chwefror 2015, gadawodd destun gorffenedig yn ymdrin â chaneuon serch yn y traddodiad gwerin Cymraeg o'i ôl.